Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin,
a bendithiaf dy enw byth bythoedd.
Bob dydd bendithiaf di,
a moliannu dy enw byth bythoedd.
Mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl,
ac y mae ei fawredd yn anchwiliadwy.
Molianna'r naill genhedlaeth dy waith wrth y llall,
a mynegi dy weithredoedd nerthol.
Am ysblander gogoneddus dy fawredd y dywedant,
a myfyrio ar dy ryfeddodau.
Cyhoeddant rym dy weithredoedd ofnadwy,
ac adrodd am dy fawredd.
Dygant i gof dy ddaioni helaeth,
a chanu am dy gyfiawnder.
Graslon a thrugarog yw'r ARGLWYDD,
araf i ddigio, a llawn ffyddlondeb.
Y mae'r ARGLWYDD yn dda wrth bawb,
ac y mae ei drugaredd tuag at ei holl waith.
Y mae dy holl waith yn dy foli, ARGLWYDD,
a'th saint yn dy fendithio.
Dywedant am ogoniant dy deyrnas,
a sôn am dy nerth,
er mwyn dangos i bobl dy weithredoedd nerthol
ac ysblander gogoneddus dy deyrnas.
Teyrnas dragwyddol yw dy deyrnas,
a saif dy lywodraeth byth bythoedd.
Y mae'r ARGLWYDD yn ffyddlon yn ei holl eiriau,
ac yn drugarog yn ei holl weithredoedd.
Fe gynnal yr ARGLWYDD bawb sy'n syrthio,
a chodi pawb sydd wedi eu darostwng.
Try llygaid pawb mewn gobaith atat ti,
ac fe roi iddynt eu bwyd yn ei bryd;
y mae dy law yn agored,
ac yr wyt yn diwallu popeth byw yn ôl d'ewyllys.
Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn yn ei holl ffyrdd
ac yn ffyddlon yn ei holl weithredoedd.
Y mae'r ARGLWYDD yn agos at bawb sy'n galw arno,
at bawb sy'n galw arno mewn gwirionedd.
Gwna ddymuniad y rhai sy'n ei ofni;
gwrendy ar eu cri, a gwareda hwy.
Gofala'r ARGLWYDD am bawb sy'n ei garu,
ond y mae'n distrywio'r holl rai drygionus.
Llefara fy ngenau foliant yr ARGLWYDD,
a bydd pob creadur yn bendithio'i enw sanctaidd
byth bythoedd.