Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 141

141
Salm. I Ddafydd.
1O ARGLWYDD, gwaeddaf arnat, brysia ataf;
gwrando ar fy llef pan alwaf arnat.
2Bydded fy ngweddi fel arogldarth o'th flaen,
ac estyniad fy nwylo fel offrwm hwyrol.
3O ARGLWYDD, gosod warchod ar fy ngenau,
gwylia dros ddrws fy ngwefusau.
4Paid â throi fy nghalon at bethau drwg,
i fod yn brysur wrth weithredoedd drygionus
gyda rhai sy'n wneuthurwyr drygioni;
paid â gadael imi fwyta o'u danteithion.
5Bydded i'r cyfiawn fy nharo mewn cariad a'm ceryddu,
ond na fydded i olew'r drygionus#141:5 Felly Groeg. Hebraeg, olew'r pen. eneinio fy mhen,
oherwydd y mae fy ngweddi yn wastad yn erbyn eu drygioni.
6Pan fwrir eu barnwyr yn erbyn craig,
byddant yn gwybod mor ddymunol oedd fy ngeiriau.
7Fel darnau o bren neu o graig ar y llawr,
bydd eu#141:7 Felly Fersiynau. Hebraeg, ein. hesgyrn wedi eu gwasgaru yng ngenau Sheol.
8Y mae fy llygaid arnat ti, O ARGLWYDD Dduw;
ynot ti y llochesaf; paid â'm gadael heb amddiffyn.
9Cadw fi o'r rhwyd a osodwyd imi,
ac o fagl y gwneuthurwyr drygioni.
10Bydded i'r drygionus syrthio i'w rhwydau eu hunain,
a myfi fy hun yn mynd heibio.

Dewis Presennol:

Y Salmau 141: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda