Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 136

136
1Diolchwch i'r ARGLWYDD am mai da yw,
oherwydd mae ei gariad hyd byth.
2Diolchwch i Dduw y duwiau,
oherwydd mae ei gariad hyd byth.
3Diolchwch i Arglwydd yr arglwyddi,
oherwydd mae ei gariad hyd byth.
4Y mae'n gwneud rhyfeddodau mawrion ei hunan,
oherwydd mae ei gariad hyd byth;
5gwnaeth y nefoedd mewn doethineb,
oherwydd mae ei gariad hyd byth;
6taenodd y ddaear dros y dyfroedd,
oherwydd mae ei gariad hyd byth;
7gwnaeth oleuadau mawrion,
oherwydd mae ei gariad hyd byth;
8yr haul i reoli'r dydd,
oherwydd mae ei gariad hyd byth,
9y lleuad a'r sêr i reoli'r nos,
oherwydd mae ei gariad hyd byth.
10Trawodd rai cyntafanedig yr Aifft,
oherwydd mae ei gariad hyd byth,
11a daeth ag Israel allan o'u canol,
oherwydd mae ei gariad hyd byth;
12â llaw gref ac â braich estynedig,
oherwydd mae ei gariad hyd byth.
13Holltodd y Môr Coch yn ddau,
oherwydd mae ei gariad hyd byth,
14a dygodd Israel trwy ei ganol,
oherwydd mae ei gariad hyd byth,
15ond taflodd Pharo a'i lu i'r Môr Coch,
oherwydd mae ei gariad hyd byth.
16Arweiniodd ei bobl trwy'r anialwch,
oherwydd mae ei gariad hyd byth,
17a tharo brenhinoedd mawrion,
oherwydd mae ei gariad hyd byth.
18Lladdodd frenhinoedd cryfion,
oherwydd mae ei gariad hyd byth;
19Sihon brenin yr Amoriaid,
oherwydd mae ei gariad hyd byth,
20Og brenin Basan,
oherwydd mae ei gariad hyd byth;
21rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth,
oherwydd mae ei gariad hyd byth,
22yn etifeddiaeth i'w was Israel,
oherwydd mae ei gariad hyd byth.
23Pan oeddem wedi'n darostwng, fe'n cofiodd,
oherwydd mae ei gariad hyd byth,
24a'n gwaredu oddi wrth ein gelynion,
oherwydd mae ei gariad hyd byth.
25Ef sy'n rhoi bwyd i bob creadur,
oherwydd mae ei gariad hyd byth.
26Diolchwch i Dduw y nefoedd,
oherwydd mae ei gariad hyd byth.

Dewis Presennol:

Y Salmau 136: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda