Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 130

130
Cân Esgyniad.
1O'r dyfnderau y gwaeddais arnat, O ARGLWYDD.
2Arglwydd, clyw fy llef;
bydded dy glustiau'n agored
i lef fy ngweddi.
3Os wyt ti, ARGLWYDD, yn cadw cyfrif o gamweddau,
pwy, O Arglwydd, a all sefyll?
4Ond y mae gyda thi faddeuant,
fel y cei dy ofni.
5Disgwyliaf wrth yr ARGLWYDD; y mae fy enaid yn disgwyl,
a gobeithiaf yn ei air;
6y mae fy enaid yn disgwyl wrth yr Arglwydd
yn fwy nag y mae'r gwylwyr am y bore,
yn fwy nag y mae'r gwylwyr am y bore.
7O Israel, gobeithia yn yr ARGLWYDD,
oherwydd gyda'r ARGLWYDD y mae ffyddlondeb,
a chydag ef y mae gwaredigaeth helaeth.
8Ef sydd yn gwaredu Israel
oddi wrth ei holl gamweddau.

Dewis Presennol:

Y Salmau 130: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd