Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 126

126
Cân Esgyniad.
1Pan adferodd yr ARGLWYDD lwyddiant Seion,
yr oeddem fel rhai wedi cael iachâd;
2yr oedd ein genau yn llawn chwerthin
a'n tafodau yn bloeddio canu.
Yna fe ddywedid ymysg y cenhedloedd,
“Gwnaeth yr ARGLWYDD bethau mawr iddynt hwy.”
3Yn wir, gwnaeth yr ARGLWYDD bethau mawr i ni,
a bu i ninnau lawenhau.
4O ARGLWYDD, adfer ein llwyddiant
fel ffrydiau yn y Negef;
5bydded i'r rhai sy'n hau mewn dagrau
fedi mewn gorfoledd.
6Bydd yr un sy'n mynd allan dan wylo,
ac yn cario ei sach o hadyd,
yn dychwelyd drachefn mewn gorfoledd,
ac yn cario ei ysgubau.

Dewis Presennol:

Y Salmau 126: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd