Y Salmau 120
120
Cân Esgyniad.
1Gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder,
ac atebodd fi.
2“O ARGLWYDD, gwared fi rhag genau twyllodrus,
a rhag tafod enllibus.”
3Beth a roddir i ti,
a beth yn ychwaneg a wneir, O dafod enllibus?
4Saethau llymion rhyfelwr,
a marwor eirias!
5Gwae fi fy mod yn ymdeithio yn Mesech,
ac yn byw ymysg pebyll Cedar.
6Yn rhy hir y bûm yn byw
gyda'r rhai sy'n casáu heddwch.
7Yr wyf fi am heddwch,
ond pan soniaf am hynny,
y maent hwy am ryfel.
Dewis Presennol:
Y Salmau 120: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fcy.png&w=128&q=75)
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004