O fel yr wyf yn caru dy gyfraith! Hi yw fy myfyrdod drwy'r dydd. Y mae dy orchymyn yn fy ngwneud yn ddoethach na'm gelynion, oherwydd y mae gyda mi bob amser. Yr wyf yn fwy deallus na'm holl athrawon, oherwydd bod dy farnedigaethau'n fyfyrdod i mi. Yr wyf yn deall yn well na'r rhai hen, oherwydd imi ufuddhau i'th ofynion. Cedwais fy nhraed rhag pob llwybr drwg, er mwyn imi gadw dy air. Nid wyf wedi troi oddi wrth dy farnau, oherwydd ti fu'n fy nghyfarwyddo. Mor felys yw dy addewid i'm genau, melysach na mêl i'm gwefusau. O'th ofynion di y caf ddeall; dyna pam yr wyf yn casáu llwybrau twyll. Y mae dy air yn llusern i'm troed, ac yn oleuni i'm llwybr. Tyngais lw, a gwneud adduned i gadw dy farnau cyfiawn.
Darllen Y Salmau 119
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 119:97-106
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos