Y mae dy air, O ARGLWYDD, yn dragwyddol, wedi ei osod yn sefydlog yn y nefoedd. Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth; seiliaist y ddaear, ac y mae'n sefyll. Yn ôl dy ordeiniadau y maent yn sefyll hyd heddiw, oherwydd gweision i ti yw'r cyfan. Oni bai i'th gyfraith fod yn hyfrydwch i mi, byddai wedi darfod amdanaf yn fy adfyd; nid anghofiaf dy ofynion hyd byth, oherwydd trwyddynt hwy adfywiaist fi. Eiddot ti ydwyf; gwareda fi, oherwydd ceisiais dy ofynion. Y mae'r drygionus yn gwylio amdanaf i'm dinistrio, ond fe ystyriaf fi dy farnedigaethau. Gwelaf fod popeth yn dod i ben, ond nid oes terfyn i'th orchymyn di. O fel yr wyf yn caru dy gyfraith! Hi yw fy myfyrdod drwy'r dydd. Y mae dy orchymyn yn fy ngwneud yn ddoethach na'm gelynion, oherwydd y mae gyda mi bob amser. Yr wyf yn fwy deallus na'm holl athrawon, oherwydd bod dy farnedigaethau'n fyfyrdod i mi. Yr wyf yn deall yn well na'r rhai hen, oherwydd imi ufuddhau i'th ofynion. Cedwais fy nhraed rhag pob llwybr drwg, er mwyn imi gadw dy air. Nid wyf wedi troi oddi wrth dy farnau, oherwydd ti fu'n fy nghyfarwyddo. Mor felys yw dy addewid i'm genau, melysach na mêl i'm gwefusau. O'th ofynion di y caf ddeall; dyna pam yr wyf yn casáu llwybrau twyll.
Darllen Y Salmau 119
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 119:89-104
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos