Y mae fy enaid yn dyheu am dy iachawdwriaeth,
ac yn gobeithio yn dy air;
y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy addewid;
dywedaf, “Pa bryd y byddi'n fy nghysuro?”
Er imi grebachu fel costrel groen mewn mwg,
eto nid anghofiaf dy ddeddfau.
Am ba hyd y disgwyl dy was
cyn iti roi barn ar fy erlidwyr?
Y mae gwŷr trahaus, rhai sy'n anwybyddu dy gyfraith,
wedi cloddio pwll ar fy nghyfer.
Y mae dy holl orchmynion yn sicr;
pan fyddant yn fy erlid â chelwydd, cynorthwya fi.
Bu ond y dim iddynt fy nifetha oddi ar y ddaear,
ond eto ni throis fy nghefn ar dy ofynion.
Yn ôl dy gariad adfywia fi,
ac fe gadwaf farnedigaethau dy enau.
Y mae dy air, O ARGLWYDD, yn dragwyddol,
wedi ei osod yn sefydlog yn y nefoedd.
Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth;
seiliaist y ddaear, ac y mae'n sefyll.
Yn ôl dy ordeiniadau y maent yn sefyll hyd heddiw,
oherwydd gweision i ti yw'r cyfan.
Oni bai i'th gyfraith fod yn hyfrydwch i mi,
byddai wedi darfod amdanaf yn fy adfyd;
nid anghofiaf dy ofynion hyd byth,
oherwydd trwyddynt hwy adfywiaist fi.
Eiddot ti ydwyf; gwareda fi,
oherwydd ceisiais dy ofynion.
Y mae'r drygionus yn gwylio amdanaf i'm dinistrio,
ond fe ystyriaf fi dy farnedigaethau.
Gwelaf fod popeth yn dod i ben,
ond nid oes terfyn i'th orchymyn di.
O fel yr wyf yn caru dy gyfraith!
Hi yw fy myfyrdod drwy'r dydd.
Y mae dy orchymyn yn fy ngwneud yn ddoethach na'm gelynion,
oherwydd y mae gyda mi bob amser.
Yr wyf yn fwy deallus na'm holl athrawon,
oherwydd bod dy farnedigaethau'n fyfyrdod i mi.
Yr wyf yn deall yn well na'r rhai hen,
oherwydd imi ufuddhau i'th ofynion.
Cedwais fy nhraed rhag pob llwybr drwg,
er mwyn imi gadw dy air.
Nid wyf wedi troi oddi wrth dy farnau,
oherwydd ti fu'n fy nghyfarwyddo.
Mor felys yw dy addewid i'm genau,
melysach na mêl i'm gwefusau.
O'th ofynion di y caf ddeall;
dyna pam yr wyf yn casáu llwybrau twyll.
Y mae dy air yn llusern i'm troed,
ac yn oleuni i'm llwybr.
Tyngais lw, a gwneud adduned
i gadw dy farnau cyfiawn.
Yr wyf mewn gofid mawr;
O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy air.
Derbyn deyrnged fy ngenau, O ARGLWYDD,
a dysg i mi dy farnedigaethau.
Bob dydd y mae fy mywyd yn fy nwylo,
ond nid wyf yn anghofio dy gyfraith.
Gosododd y drygionus rwyd i mi,
ond nid wyf wedi gwyro oddi wrth dy ofynion.
Y mae dy farnedigaethau yn etifeddiaeth imi am byth,
oherwydd y maent yn llonder i'm calon.
Yr wyf wedi gosod fy mryd ar ufuddhau i'th ddeddfau;
y mae eu gwobr yn dragwyddol.
Yr wyf yn casáu rhai anwadal,
ond yn caru dy gyfraith.
Ti yw fy lloches a'm tarian;
yr wyf yn gobeithio yn dy air.
Trowch ymaith oddi wrthyf, chwi rai drwg,
er mwyn imi gadw gorchmynion fy Nuw.
Cynnal fi yn ôl dy addewid, fel y byddaf fyw,
ac na chywilyddier fi yn fy hyder.
Dal fi i fyny, fel y caf waredigaeth,
imi barchu dy ddeddfau yn wastad.
Yr wyt yn gwrthod pawb sy'n gwyro oddi wrth dy ddeddfau,
oherwydd mae eu twyll yn ofer.
Yn sothach yr ystyri holl rai drygionus y ddaear;
am hynny yr wyf yn caru dy farnedigaethau.
Y mae fy nghnawd yn crynu gan dy arswyd,
ac yr wyf yn ofni dy farnau.