Daeth cyfyngder a gofid ar fy ngwarthaf,
ond yr wyf yn ymhyfrydu yn dy orchmynion.
Y mae dy farnedigaethau di'n gyfiawn byth;
rho imi ddeall, fel y byddaf fyw.
Gwaeddaf â'm holl galon; ateb fi, ARGLWYDD,
ac fe fyddaf ufudd i'th ddeddfau.
Gwaeddaf arnat ti; gwareda fi,
ac fe gadwaf dy farnedigaethau.
Codaf cyn y wawr a gofyn am gymorth,
a gobeithiaf yn dy eiriau.
Y mae fy llygaid yn effro yng ngwyliadwriaethau'r nos,
i fyfyrio ar dy addewid.
Gwrando fy llef yn ôl dy gariad;
O ARGLWYDD, yn ôl dy farnau adfywia fi.
Y mae fy erlidwyr dichellgar yn agosáu,
ond y maent yn bell oddi wrth dy gyfraith.
Yr wyt ti yn agos, O ARGLWYDD,
ac y mae dy holl orchmynion yn wirionedd.
Gwn erioed am dy farnedigaethau,
i ti eu sefydlu am byth.
Edrych ar fy adfyd a gwared fi,
oherwydd nid anghofiais dy gyfraith.
Amddiffyn fy achos ac achub fi;
adfywia fi yn ôl dy addewid.
Y mae iachawdwriaeth ymhell oddi wrth y drygionus,
oherwydd nid ydynt yn ceisio dy ddeddfau.
Mawr yw dy drugaredd, O ARGLWYDD;
adfywia fi yn ôl dy farn.
Y mae fy erlidwyr a'm gelynion yn niferus,
ond eto ni wyrais oddi wrth dy farnedigaethau.
Gwelais y rhai twyllodrus, a ffieiddiais
am nad ydynt yn cadw dy air.
Gwêl fel yr wyf yn caru dy ofynion;
O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy gariad.
Hanfod dy air yw gwirionedd,
ac y mae dy holl farnau cyfiawn yn dragwyddol.
Y mae tywysogion yn fy erlid yn ddiachos,
ond dy air di yw arswyd fy nghalon.
Yr wyf yn llawenhau o achos dy addewid,
fel un sy'n cael ysbail fawr.
Yr wyf yn casáu ac yn ffieiddio twyll,
ond yn caru dy gyfraith di.
Seithwaith y dydd yr wyf yn dy foli
oherwydd dy farnau cyfiawn.
Caiff y rhai sy'n caru dy gyfraith wir heddwch,
ac nid oes dim yn peri iddynt faglu.
Yr wyf yn disgwyl am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD,
ac yn ufuddhau i'th orchmynion.
Yr wyf yn cadw dy farnedigaethau
ac yn eu caru'n fawr.
Yr wyf yn ufudd i'th ofynion a'th farnedigaethau,
oherwydd y mae fy holl ffyrdd o'th flaen.
Doed fy llef atat, O ARGLWYDD;
rho imi ddeall yn ôl dy air.
Doed fy neisyfiad atat;
gwared fi yn ôl dy addewid.
Bydd fy ngwefusau'n tywallt moliant
am iti ddysgu i mi dy ddeddfau.
Bydd fy nhafod yn canu am dy addewid,
oherwydd y mae dy holl orchmynion yn gyfiawn.
Bydded dy law yn barod i'm cynorthwyo,
oherwydd yr wyf wedi dewis dy ofynion.
Yr wyf yn dyheu am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD,
ac yn ymhyfrydu yn dy gyfraith.
Gad imi fyw i'th foliannu di,
a bydded i'th farnau fy nghynorthwyo.
Euthum ar gyfeiliorn fel dafad ar goll;
chwilia am dy was,
oherwydd nid anghofiais dy orchmynion.