Gwneuthum farn a chyfiawnder; paid â'm gadael i'm gorthrymwyr. Bydd yn feichiau er lles dy was; paid â gadael i'r trahaus fy ngorthrymu. Y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy iachawdwriaeth, ac am dy addewid o fuddugoliaeth. Gwna â'th was yn ôl dy gariad, a dysg i mi dy ddeddfau. Dy was wyf fi; rho imi ddeall i wybod dy farnedigaethau. Y mae'n amser i'r ARGLWYDD weithredu, oherwydd torrwyd dy gyfraith. Er hynny yr wyf yn caru dy orchmynion yn fwy nag aur, nag aur coeth. Am hyn cerddaf yn union yn ôl dy holl ofynion, a chasâf lwybrau twyll.
Darllen Y Salmau 119
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 119:121-128
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos