Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 119:119-160

Y Salmau 119:119-160 BCND

Yn sothach yr ystyri holl rai drygionus y ddaear; am hynny yr wyf yn caru dy farnedigaethau. Y mae fy nghnawd yn crynu gan dy arswyd, ac yr wyf yn ofni dy farnau. Gwneuthum farn a chyfiawnder; paid â'm gadael i'm gorthrymwyr. Bydd yn feichiau er lles dy was; paid â gadael i'r trahaus fy ngorthrymu. Y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy iachawdwriaeth, ac am dy addewid o fuddugoliaeth. Gwna â'th was yn ôl dy gariad, a dysg i mi dy ddeddfau. Dy was wyf fi; rho imi ddeall i wybod dy farnedigaethau. Y mae'n amser i'r ARGLWYDD weithredu, oherwydd torrwyd dy gyfraith. Er hynny yr wyf yn caru dy orchmynion yn fwy nag aur, nag aur coeth. Am hyn cerddaf yn union yn ôl dy holl ofynion, a chasâf lwybrau twyll. Y mae dy farnedigaethau'n rhyfeddol; am hynny yr wyf yn eu cadw. Pan ddatguddir dy air, bydd yn goleuo ac yn rhoi deall i'r syml. Yr wyf yn agor fy ngheg mewn blys, oherwydd yr wyf yn dyheu am dy orchmynion. Tro ataf a bydd drugarog, yn ôl dy arfer i'r rhai sy'n caru dy enw. Cadw fy ngham yn sicr fel yr addewaist, a phaid â gadael i ddrygioni fy meistroli. Rhyddha fi oddi wrth ormes dynol, er mwyn imi ufuddhau i'th ofynion di. Bydded llewyrch dy wyneb ar dy was, a dysg i mi dy ddeddfau. Y mae fy llygaid yn ffrydio dagrau am nad yw pobl yn cadw dy gyfraith. Cyfiawn wyt ti, O ARGLWYDD, a chywir yw dy farnau. Y mae'r barnedigaethau a roddi yn gyfiawn ac yn gwbl ffyddlon. Y mae fy nghynddaredd yn fy ysu am fod fy ngelynion yn anghofio dy eiriau. Y mae dy addewid wedi ei phrofi'n llwyr, ac y mae dy was yn ei charu. Er fy mod i yn fychan ac yn ddinod, nid wyf yn anghofio dy ofynion. Y mae dy gyfiawnder di yn gyfiawnder tragwyddol, ac y mae dy gyfraith yn wirionedd. Daeth cyfyngder a gofid ar fy ngwarthaf, ond yr wyf yn ymhyfrydu yn dy orchmynion. Y mae dy farnedigaethau di'n gyfiawn byth; rho imi ddeall, fel y byddaf fyw. Gwaeddaf â'm holl galon; ateb fi, ARGLWYDD, ac fe fyddaf ufudd i'th ddeddfau. Gwaeddaf arnat ti; gwareda fi, ac fe gadwaf dy farnedigaethau. Codaf cyn y wawr a gofyn am gymorth, a gobeithiaf yn dy eiriau. Y mae fy llygaid yn effro yng ngwyliadwriaethau'r nos, i fyfyrio ar dy addewid. Gwrando fy llef yn ôl dy gariad; O ARGLWYDD, yn ôl dy farnau adfywia fi. Y mae fy erlidwyr dichellgar yn agosáu, ond y maent yn bell oddi wrth dy gyfraith. Yr wyt ti yn agos, O ARGLWYDD, ac y mae dy holl orchmynion yn wirionedd. Gwn erioed am dy farnedigaethau, i ti eu sefydlu am byth. Edrych ar fy adfyd a gwared fi, oherwydd nid anghofiais dy gyfraith. Amddiffyn fy achos ac achub fi; adfywia fi yn ôl dy addewid. Y mae iachawdwriaeth ymhell oddi wrth y drygionus, oherwydd nid ydynt yn ceisio dy ddeddfau. Mawr yw dy drugaredd, O ARGLWYDD; adfywia fi yn ôl dy farn. Y mae fy erlidwyr a'm gelynion yn niferus, ond eto ni wyrais oddi wrth dy farnedigaethau. Gwelais y rhai twyllodrus, a ffieiddiais am nad ydynt yn cadw dy air. Gwêl fel yr wyf yn caru dy ofynion; O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy gariad. Hanfod dy air yw gwirionedd, ac y mae dy holl farnau cyfiawn yn dragwyddol.