Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 116

116
1Yr wyf yn caru'r ARGLWYDD, am iddo wrando
ar lef fy ngweddi,
2am iddo droi ei glust ataf
y dydd y gwaeddais arno.
3Yr oedd clymau angau wedi tynhau amdanaf,
a gefynnau Sheol wedi fy nal,
a minnau'n dioddef adfyd ac ing.
4Yna gelwais ar enw'r ARGLWYDD:
“Yr wyf yn erfyn, ARGLWYDD, gwared fi.”
5Graslon yw'r ARGLWYDD, a chyfiawn,
ac y mae ein Duw ni'n tosturio.
6Ceidw'r ARGLWYDD y rhai syml;
pan ddarostyngwyd fi, fe'm gwaredodd.
7Gorffwysa unwaith eto, fy enaid,
oherwydd bu'r ARGLWYDD yn hael wrthyt;
8oherwydd gwaredodd fy enaid rhag angau,
fy llygaid rhag dagrau,
fy nhraed rhag baglu.
9Rhodiaf gerbron yr ARGLWYDD
yn nhir y rhai byw.
10Yr oeddwn yn credu y byddwn wedi fy narostwng;
cefais fy nghystuddio'n drwm;
11yn fy nghyni dywedais,
“Y mae pawb yn dwyllodrus.”
12Sut y gallaf dalu i'r ARGLWYDD
am ei holl haelioni tuag ataf?
13Dyrchafaf gwpan iachawdwriaeth,
a galw ar enw'r ARGLWYDD.
14Talaf fy addunedau i'r ARGLWYDD
ym mhresenoldeb ei holl bobl.
15Gwerthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD
yw marwolaeth ei ffyddloniaid.
16O ARGLWYDD, dy was yn wir wyf fi,
gwas o hil gweision;
yr wyt wedi datod fy rhwymau.
17Rhof i ti offrwm diolch,
a galw ar enw'r ARGLWYDD.
18Talaf fy addunedau i'r ARGLWYDD
ym mhresenoldeb ei holl bobl,
19yng nghynteddau tŷ'r ARGLWYDD
yn dy ganol di, O Jerwsalem.
Molwch yr ARGLWYDD.

Dewis Presennol:

Y Salmau 116: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda