Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 105:21-45

Y Salmau 105:21-45 BCND

gwnaeth ef yn feistr ar ei dŷ, ac yn llywodraethwr ar ei holl eiddo, i hyfforddi ei dywysogion yn ôl ei ddymuniad, ac i ddysgu doethineb i'w henuriaid. Yna daeth Israel hefyd i'r Aifft, a Jacob i grwydro yn nhir Ham. A gwnaeth yr Arglwydd ei bobl yn ffrwythlon iawn, ac aethant yn gryfach na'u gelynion. Trodd yntau eu calon i gasáu ei bobl, ac i ymddwyn yn ddichellgar at ei weision. Yna anfonodd ei was Moses, ac Aaron, yr un yr oedd wedi ei ddewis, a thrwy eu geiriau hwy gwnaeth arwyddion a gwyrthiau yn nhir Ham. Anfonodd dywyllwch, ac aeth yn dywyll, eto yr oeddent yn gwrthryfela yn erbyn ei eiriau. Trodd eu dyfroedd yn waed, a lladdodd eu pysgod. Llanwyd eu tir â llyffaint, hyd yn oed ystafelloedd eu brenhinoedd. Pan lefarodd ef, daeth haid o bryfed a llau trwy'r holl wlad. Rhoes iddynt genllysg yn lle glaw, a mellt yn fflachio trwy eu gwlad. Trawodd y gwinwydd a'r ffigyswydd, a malurio'r coed trwy'r wlad. Pan lefarodd ef, daeth locustiaid a lindys heb rifedi, nes iddynt fwyta'r holl laswellt trwy'r wlad, a difa holl gynnyrch y ddaear. A thrawodd bob cyntafanedig yn y wlad, blaenffrwyth eu holl nerth. Yna dygodd hwy allan gydag arian ac aur, ac nid oedd un yn baglu ymysg y llwythau. Llawenhaodd yr Eifftiaid pan aethant allan, oherwydd bod arnynt eu hofn hwy. Lledaenodd gwmwl i'w gorchuddio, a thân i oleuo iddynt yn y nos. Pan fu iddynt ofyn, anfonodd soflieir iddynt, a digonodd hwy â bara'r nefoedd. Holltodd graig nes bod dŵr yn pistyllio, ac yn llifo fel afon trwy'r diffeithwch. Oherwydd yr oedd yn cofio ei addewid sanctaidd i Abraham ei was. Dygodd ei bobl allan mewn llawenydd, ei rai etholedig mewn gorfoledd. Rhoes iddynt diroedd y cenhedloedd, a chymerasant feddiant o ffrwyth llafur pobloedd, er mwyn iddynt gadw ei ddeddfau, ac ufuddhau i'w gyfreithiau. Molwch yr ARGLWYDD.