Diolchwch i'r ARGLWYDD. Galwch ar ei enw,
gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
Canwch iddo, moliannwch ef,
dywedwch am ei holl ryfeddodau.
Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd;
llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD.
Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth,
ceisiwch ei wyneb bob amser.
Cofiwch y rhyfeddodau a wnaeth,
ei wyrthiau a'r barnedigaethau a gyhoeddodd,
chwi ddisgynyddion Abraham, ei was,
disgynyddion Jacob, ei etholedig.
Ef yw'r ARGLWYDD ein Duw,
ac y mae ei farnedigaethau dros yr holl ddaear.
Y mae'n cofio ei gyfamod dros byth,
gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau,
sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham,
a'i lw i Isaac—
yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob,
ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,
a dweud, “I chwi y rhoddaf wlad Canaan
yn gyfran eich etifeddiaeth.”
Pan oeddent yn fychan o rif,
yn ychydig, ac yn grwydriaid yn y wlad,
yn crwydro o genedl i genedl,
ac o un deyrnas at bobl eraill,
ni adawodd i neb eu darostwng,
ond ceryddodd frenhinoedd o'u hachos,
a dweud, “Peidiwch â chyffwrdd â'm heneiniog,
na gwneud niwed i'm proffwydi.”
Pan alwodd am newyn dros y wlad,
a thorri ymaith eu cynhaliaeth o fara,
yr oedd wedi anfon gŵr o'u blaenau,
Joseff, a werthwyd yn gaethwas.
Doluriwyd ei draed yn y cyffion,
a rhoesant haearn am ei wddf,
nes i'r hyn a ddywedodd ef ddod yn wir,
ac i air yr ARGLWYDD ei brofi'n gywir.
Anfonodd y brenin i'w ryddhau—
brenin y cenhedloedd yn ei wneud yn rhydd;
gwnaeth ef yn feistr ar ei dŷ,
ac yn llywodraethwr ar ei holl eiddo,
i hyfforddi ei dywysogion yn ôl ei ddymuniad,
ac i ddysgu doethineb i'w henuriaid.
Yna daeth Israel hefyd i'r Aifft,
a Jacob i grwydro yn nhir Ham.
A gwnaeth yr Arglwydd ei bobl yn ffrwythlon iawn,
ac aethant yn gryfach na'u gelynion.
Trodd yntau eu calon i gasáu ei bobl,
ac i ymddwyn yn ddichellgar at ei weision.
Yna anfonodd ei was Moses,
ac Aaron, yr un yr oedd wedi ei ddewis,
a thrwy eu geiriau hwy gwnaeth arwyddion
a gwyrthiau yn nhir Ham.
Anfonodd dywyllwch, ac aeth yn dywyll,
eto yr oeddent yn gwrthryfela yn erbyn ei eiriau.
Trodd eu dyfroedd yn waed,
a lladdodd eu pysgod.
Llanwyd eu tir â llyffaint,
hyd yn oed ystafelloedd eu brenhinoedd.
Pan lefarodd ef, daeth haid o bryfed
a llau trwy'r holl wlad.
Rhoes iddynt genllysg yn lle glaw,
a mellt yn fflachio trwy eu gwlad.
Trawodd y gwinwydd a'r ffigyswydd,
a malurio'r coed trwy'r wlad.
Pan lefarodd ef, daeth locustiaid
a lindys heb rifedi,
nes iddynt fwyta'r holl laswellt trwy'r wlad,
a difa holl gynnyrch y ddaear.
A thrawodd bob cyntafanedig yn y wlad,
blaenffrwyth eu holl nerth.
Yna dygodd hwy allan gydag arian ac aur,
ac nid oedd un yn baglu ymysg y llwythau.
Llawenhaodd yr Eifftiaid pan aethant allan,
oherwydd bod arnynt eu hofn hwy.
Lledaenodd gwmwl i'w gorchuddio,
a thân i oleuo iddynt yn y nos.
Pan fu iddynt ofyn, anfonodd soflieir iddynt,
a digonodd hwy â bara'r nefoedd.
Holltodd graig nes bod dŵr yn pistyllio,
ac yn llifo fel afon trwy'r diffeithwch.
Oherwydd yr oedd yn cofio ei addewid sanctaidd
i Abraham ei was.
Dygodd ei bobl allan mewn llawenydd,
ei rai etholedig mewn gorfoledd.
Rhoes iddynt diroedd y cenhedloedd,
a chymerasant feddiant o ffrwyth llafur pobloedd,
er mwyn iddynt gadw ei ddeddfau,
ac ufuddhau i'w gyfreithiau.
Molwch yr ARGLWYDD.