Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD. O ARGLWYDD fy Nuw, mawr iawn wyt ti; yr wyt wedi dy wisgo ag ysblander ac anrhydedd, a'th orchuddio â goleuni fel mantell. Yr wyt yn taenu'r nefoedd fel pabell, yn gosod tulathau dy balas ar y dyfroedd, yn cymryd y cymylau'n gerbyd, yn marchogaeth ar adenydd y gwynt, yn gwneud y gwyntoedd yn negeswyr, a'r fflamau tân yn weision. Gosodaist y ddaear ar ei sylfeini, fel na fydd yn symud byth bythoedd; gwnaethost i'r dyfnder ei gorchuddio fel dilledyn, ac y mae dyfroedd yn sefyll goruwch y mynyddoedd. Gan dy gerydd di fe ffoesant, gan sŵn dy daranau ciliasant draw, a chodi dros fynyddoedd a disgyn i'r dyffrynnoedd, i'r lle a bennaist ti iddynt; rhoist iddynt derfyn nad ydynt i'w groesi, rhag iddynt ddychwelyd a gorchuddio'r ddaear. Yr wyt yn gwneud i ffynhonnau darddu mewn hafnau, yn gwneud iddynt lifo rhwng y mynyddoedd; rhônt ddiod i holl fwystfilod y maes, a chaiff asynnod gwyllt eu disychedu; y mae adar y nefoedd yn nythu yn eu hymyl, ac yn trydar ymysg y canghennau. Yr wyt yn dyfrhau'r mynyddoedd o'th balas; digonir y ddaear trwy dy ddarpariaeth. Yr wyt yn gwneud i'r gwellt dyfu i'r gwartheg, a phlanhigion at wasanaeth pobl, i ddwyn allan fwyd o'r ddaear, a gwin i lonni calonnau pobl, olew i ddisgleirio'u hwynebau, a bara i gynnal eu calonnau.
Darllen Y Salmau 104
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 104:1-15
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos