Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 8:1-22

Diarhebion 8:1-22 BCND

Onid yw doethineb yn galw, a deall yn codi ei lais? Y mae'n sefyll ar y mannau uchel ar fin y ffordd, ac yn ymyl y croesffyrdd; Y mae'n galw gerllaw'r pyrth sy'n arwain i'r dref, wrth y fynedfa at y pyrth: “Arnoch chwi, bobl, yr wyf yn galw, ac atoch chwi, ddynolryw, y daw fy llais. Chwi, y rhai gwirion, dysgwch graffter, a chwithau, ffyliaid, ceisiwch synnwyr. Gwrandewch, oherwydd traethaf bethau gwerthfawr, a daw geiriau gonest o'm genau. Traetha fy nhafod y gwir, ac y mae anwiredd yn ffiaidd gan fy ngenau. Y mae fy holl eiriau yn gywir; nid yw'r un ohonynt yn ŵyr na thraws. Y mae'r cyfan yn eglur i'r deallus, ac yn uniawn i'r un sy'n ceisio gwybodaeth. Derbyniwch fy nghyfarwyddyd yn hytrach nag arian, oherwydd gwell yw nag aur. Yn wir, y mae doethineb yn well na gemau, ac ni all yr holl bethau dymunol gystadlu â hi. Yr wyf fi, doethineb, yn byw gyda chraffter, ac wedi cael gwybodaeth a synnwyr. Ofn yr ARGLWYDD yw casáu drygioni; yr wyf yn ffieiddio balchder ac uchelgais, ffordd drygioni a geiriau traws. Fy eiddo i yw cyngor a chraffter, a chennyf fi y mae deall a gallu. Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y llunia llywodraethwyr ddeddfau cyfiawn. Trwof fi y caiff tywysogion awdurdod, ac y barna penaethiaid yn gyfiawn. Yr wyf yn caru pob un sy'n fy ngharu i, ac y mae'r rhai sy'n fy ngheisio'n ddyfal yn fy nghael. Gennyf fi y mae cyfoeth ac anrhydedd, digonedd o olud a chyfiawnder. Y mae fy ffrwythau'n well nag aur, aur coeth, a'm cynnyrch yn well nag arian pur. Rhodiaf ar hyd ffordd cyfiawnder, ar ganol llwybrau barn, a rhoddaf gyfoeth i'r rhai a'm câr, a llenwi eu trysordai. “Lluniodd yr ARGLWYDD fi ar ddechrau ei waith, yn gyntaf o'i weithredoedd gynt.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Diarhebion 8:1-22