Fy mab, rho sylw i'm geiriau, a gwrando ar fy ymadrodd. Paid â'u gollwng o'th olwg; cadw hwy yn dy feddwl; oherwydd y maent yn fywyd i'r un sy'n eu cael, ac yn iechyd i'w holl gorff. Yn fwy na dim, edrych ar ôl dy feddwl, oherwydd oddi yno y tardd bywyd. Gofala osgoi geiriau twyllodrus, a chadw draw oddi wrth siarad dichellgar. Cadw dy lygaid yn unionsyth, ac edrych yn syth o'th flaen. Rho sylw i lwybr dy droed, i'th holl ffyrdd fod yn ddiogel. Paid â throi i'r dde nac i'r chwith, a chadw dy droed rhag y drwg.
Darllen Diarhebion 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 4:20-27
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos