Y mae'r drygionus yn ffoi heb i neb ei erlid,
ond fe saif y cyfiawn yn gadarn fel llew.
Pan fydd gwlad mewn gwrthryfel bydd nifer o arweinwyr,
ond trwy bobl synhwyrol a deallus y sefydlir trefn.
Y mae un tlawd yn gorthrymu tlodion,
fel glaw yn curo cnwd heb adael cynnyrch.
Y mae'r rhai sy'n cefnu ar y gyfraith yn canmol y drygionus,
ond y mae'r rhai sy'n cadw'r gyfraith yn ymladd yn eu herbyn.
Nid yw pobl ddrwg yn deall beth yw cyfiawnder,
ond y mae'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn deall y cyfan.
Y mae'n well bod yn dlawd, a rhodio'n gywir,
na bod yn gyfoethog ac yn droellog ei ffyrdd.
Y mae plentyn deallus yn cadw'r gyfraith,
ond y mae'r un sy'n cyfeillachu â'r glwth yn dwyn anfri ar ei rieni.
Y mae'r un sy'n cynyddu ei gyfoeth trwy log ac usuriaeth
yn ei gasglu i'r un sy'n garedig wrth y tlawd.
Pwy bynnag sy'n gwrthod gwrando ar y gyfraith,
bydd ei weddi ef yn ffieidd-dra.
Bydd yr un sy'n camarwain yr uniawn i ffordd ddrwg
yn syrthio ei hun i'r pwll a wnaeth;
ond caiff y cywir etifeddiaeth dda.
Y mae'r cyfoethog yn ddoeth yn ei olwg ei hun,
ond y mae'r tlawd deallus yn gweld trwyddo.
Pan yw'r cyfiawn yn llywodraethu, ceir urddas mawr;
ond pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio.
Ni lwydda'r un sy'n cuddio'i droseddau,
ond y mae'r un sy'n eu cyffesu ac yn cefnu arnynt yn cael trugaredd.
Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD yn wastad;
ond y mae'r un sy'n caledu ei galon yn disgyn i ddinistr.
Fel llew yn rhuo, neu arth yn rhuthro,
felly y mae un drygionus yn llywodraethu pobl dlawd.
Y mae llywodraethwr heb ddeall yn pentyrru trawster,
ond y mae'r un sy'n casáu llwgrwobr yn estyn ei ddyddiau.
Y mae un sy'n euog o dywallt gwaed
yn ffoi i gyfeiriad y pwll;
peidied neb â'i atal.
Y mae'r un sy'n rhodio'n gywir yn ddiogel,
ond y mae'r sawl sy'n droellog ei ffyrdd yn syrthio i'r pwll.
Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,
ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn llawn tlodi.
Caiff y ffyddlon lawer o fendithion,
ond ni fydd yr un sydd ar frys i ymgyfoethogi heb ei gosb.
Nid yw'n iawn dangos ffafr,
ac eto fe drosedda rhywun am damaid o fara.
Y mae un cybyddlyd yn rhuthro am gyfoeth;
nid yw'n ystyried y daw arno angen.
Caiff y sawl sy'n ceryddu fwy o barch yn y diwedd
na'r un sy'n gwenieithio.
Y mae'r un sy'n lladrata oddi ar ei dad neu ei fam,
ac yn dweud nad yw'n drosedd,
yn gymar i'r un sy'n dinistrio.
Y mae'r trachwantus yn creu cynnen,
ond y mae'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn cael llawnder.
Y mae'r un sy'n ymddiried ynddo'i hun yn ynfyd,
ond fe waredir y sawl sy'n dilyn doethineb.
Ni ddaw angen ar yr un sy'n rhoi i'r tlawd,
ond daw llawer o felltithion ar yr un sy'n cau ei lygaid.
Pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio,
ond ar ôl eu difa, bydd y cyfiawn yn amlhau.