Cymer wisg y sawl sy'n mechnïo dros estron, a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn. Melys i rywun yw bara a gafwyd trwy dwyll, ond yn y diwedd llenwir ei geg â graean. Sicrheir cynlluniau trwy gyngor; rhaid trefnu'n ofalus ar gyfer rhyfel. Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach; paid â chyfeillachu â'r llac ei dafod. Os bydd rhywun yn melltithio ei dad a'i fam, diffoddir ei oleuni mewn tywyllwch dudew. Os ceir etifeddiaeth sydyn yn y dechrau, ni bydd bendith ar ei diwedd. Paid â dweud, “Talaf y pwyth yn ôl”; disgwyl wrth yr ARGLWYDD i achub dy gam. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw amrywiaeth mewn pwysau, ac nid da ganddo gloriannau twyllodrus. Yr ARGLWYDD sy'n rheoli camre pobl; sut y gall neb ddeall ei ffordd? Gall rhywun fynd i fagl wrth gysegru'n fyrbwyll, ac yna dechrau ystyried ar ôl gwneud addunedau. Y mae brenin doeth yn nithio'r drygionus, ac yn troi'r rhod yn eu herbyn. Llewyrcha'r ARGLWYDD ar ysbryd pobl, i chwilio i ddyfnderau eu bod. Y mae teyrngarwch a chywirdeb yn gwarchod y brenin, a diogelir ei orsedd gan deyrngarwch. Gogoniant yr ifainc yw eu nerth, ac addurn i'r hen yw penwynni. Y mae taro i'r byw yn gwella drwg, a dyrnodiau yn iacháu rhywun drwyddo.
Darllen Diarhebion 20
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 20:16-30
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos