Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 2:1-22

Diarhebion 2:1-22 BCND

Fy mab, os derbynni fy ngeiriau, a thrysori fy ngorchmynion, a gwrando'n astud ar ddoethineb, a rhoi dy feddwl ar ddeall; os gelwi am ddeall, a chodi dy lais am wybodaeth, a chwilio amdani fel am arian, a chloddio amdani fel am drysor— yna cei ddeall ofn yr ARGLWYDD, a chael gwybodaeth o Dduw. Oherwydd yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb, ac o'i enau ef y daw gwybodaeth a deall. Y mae'n trysori craffter i'r uniawn; y mae'n darian i'r rhai a rodia'n gywir. Y mae'n diogelu llwybrau cyfiawnder, ac yn gwarchod ffordd ei ffyddloniaid. Yna byddi'n deall cyfiawnder a barn, ac uniondeb a phob ffordd dda; oherwydd bydd doethineb yn dod i'th feddwl, a deall yn rhoi pleser iti. Bydd pwyll yn dy amddiffyn, a deall yn dy warchod, ac yn dy gadw rhag ffordd drygioni, a rhag y rhai sy'n siarad yn dwyllodrus— y rhai sy'n gadael y ffordd iawn i rodio yn llwybrau tywyllwch, sy'n cael pleser mewn gwneud drwg a mwynhad mewn twyll, y rhai y mae eu ffordd yn gam a'u llwybrau'n droellog. Fe'th geidw oddi wrth y wraig ddieithr, a rhag y ddynes estron a'i geiriau dengar, sydd wedi gadael cymar ei hieuenctid, ac wedi anghofio cyfamod ei Duw. Oherwydd y mae ei thŷ yn gwyro at angau, a'i llwybrau at y cysgodion. Ni ddaw neb sy'n mynd ati yn ei ôl, ac ni chaiff ailafael ar lwybrau bywyd. Felly gofala di rodio yn ffyrdd y da, a chadw at lwybrau'r cyfiawn. Oherwydd y rhai cyfiawn a drig yn y tir, a'r rhai cywir a gaiff aros ynddo; ond torrir y rhai drwg o'r tir, a diwreiddir y twyllwyr ohono.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Diarhebion 2:1-22

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd