Fy mab, os derbynni fy ngeiriau, a thrysori fy ngorchmynion, a gwrando'n astud ar ddoethineb, a rhoi dy feddwl ar ddeall; os gelwi am ddeall, a chodi dy lais am wybodaeth, a chwilio amdani fel am arian, a chloddio amdani fel am drysor— yna cei ddeall ofn yr ARGLWYDD, a chael gwybodaeth o Dduw. Oherwydd yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb, ac o'i enau ef y daw gwybodaeth a deall. Y mae'n trysori craffter i'r uniawn; y mae'n darian i'r rhai a rodia'n gywir. Y mae'n diogelu llwybrau cyfiawnder, ac yn gwarchod ffordd ei ffyddloniaid. Yna byddi'n deall cyfiawnder a barn, ac uniondeb a phob ffordd dda; oherwydd bydd doethineb yn dod i'th feddwl, a deall yn rhoi pleser iti. Bydd pwyll yn dy amddiffyn, a deall yn dy warchod
Darllen Diarhebion 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 2:1-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos