Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 12:1-28

Diarhebion 12:1-28 BCND

Y mae'r sawl sy'n caru disgyblaeth yn caru gwybodaeth, ond hurtyn sy'n casáu cerydd. Y mae'r daionus yn ennill ffafr yr ARGLWYDD, ond condemnir y dichellgar. Ni ddiogelir neb trwy ddrygioni, ac ni ddiwreiddir y cyfiawn. Y mae gwraig fedrus yn goron i'w gŵr, ond un ddigywilydd fel pydredd yn ei esgyrn. Y mae bwriadau'r cyfiawn yn gywir, ond cynlluniau'r drygionus yn dwyllodrus. Cynllwyn i dywallt gwaed yw geiriau'r drygionus, ond y mae ymadroddion y cyfiawn yn eu gwaredu. Dymchwelir y drygionus, a derfydd amdanynt, ond saif tŷ'r cyfiawn yn gadarn. Canmolir rhywun ar sail ei ddeall, ond gwawdir y meddwl troëdig. Gwell bod yn ddiymhongar ac yn ennill tamaid, na bod yn ymffrostgar a heb fwyd. Y mae'r cyfiawn yn ystyriol o'i anifail, ond y mae'r drygionus yn ddidostur. Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd, ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn ddisynnwyr. Blysia'r drygionus am ysbail drygioni, ond y mae gwreiddyn y cyfiawn yn sicr. Meglir y drwg gan dramgwydd ei eiriau, ond dianc y cyfiawn rhag adfyd. Trwy ffrwyth ei eiriau y digonir pob un â daioni, a thelir iddo yn ôl yr hyn a wnaeth. Y mae ffordd y ffôl yn iawn yn ei olwg, ond gwrendy'r doeth ar gyngor. Buan y dengys y ffôl ei fod wedi ei gythruddo, ond y mae'r call yn anwybyddu sarhad. Y mae tyst gonest yn dweud y gwir, ond celwydd a draetha'r gau dyst. Y mae geiriau'r straegar fel brath cleddyf, ond y mae tafod y doeth yn iacháu. Erys geiriau gwir am byth, ond ymadrodd celwyddog am eiliad. Dichell sydd ym meddwl y rhai sy'n cynllwynio drwg, ond daw llawenydd i'r rhai sy'n cynllunio heddwch. Ni ddaw unrhyw niwed i'r cyfiawn, ond bydd y drygionus yn llawn helbul. Y mae geiriau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, ond y mae'r rhai sy'n gweithredu'n gywir wrth ei fodd. Y mae'r call yn cuddio'i wybodaeth, ond ffyliaid yn cyhoeddi eu ffolineb. Yn llaw y rhai diwyd y mae'r awdurdod, ond y mae diogi yn arwain i gaethiwed. Y mae pryder meddwl yn llethu rhywun, ond llawenheir ef gan air caredig. Y mae'r cyfiawn yn cilio oddi wrth ddrwg, ond y mae ffordd y drygionus yn eu camarwain. Ni fydd y diogyn yn rhostio'i helfa, ond gan y diwyd bydd golud mawr. Ar ffordd cyfiawnder y mae bywyd, ac nid oes marwolaeth yn ei llwybrau.