Y mae'r sawl sy'n caru disgyblaeth yn caru gwybodaeth,
ond hurtyn sy'n casáu cerydd.
Y mae'r daionus yn ennill ffafr yr ARGLWYDD,
ond condemnir y dichellgar.
Ni ddiogelir neb trwy ddrygioni,
ac ni ddiwreiddir y cyfiawn.
Y mae gwraig fedrus yn goron i'w gŵr,
ond un ddigywilydd fel pydredd yn ei esgyrn.
Y mae bwriadau'r cyfiawn yn gywir,
ond cynlluniau'r drygionus yn dwyllodrus.
Cynllwyn i dywallt gwaed yw geiriau'r drygionus,
ond y mae ymadroddion y cyfiawn yn eu gwaredu.
Dymchwelir y drygionus, a derfydd amdanynt,
ond saif tŷ'r cyfiawn yn gadarn.
Canmolir rhywun ar sail ei ddeall,
ond gwawdir y meddwl troëdig.
Gwell bod yn ddiymhongar ac yn ennill tamaid,
na bod yn ymffrostgar a heb fwyd.
Y mae'r cyfiawn yn ystyriol o'i anifail,
ond y mae'r drygionus yn ddidostur.
Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,
ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn ddisynnwyr.
Blysia'r drygionus am ysbail drygioni,
ond y mae gwreiddyn y cyfiawn yn sicr.
Meglir y drwg gan dramgwydd ei eiriau,
ond dianc y cyfiawn rhag adfyd.
Trwy ffrwyth ei eiriau y digonir pob un â daioni,
a thelir iddo yn ôl yr hyn a wnaeth.
Y mae ffordd y ffôl yn iawn yn ei olwg,
ond gwrendy'r doeth ar gyngor.
Buan y dengys y ffôl ei fod wedi ei gythruddo,
ond y mae'r call yn anwybyddu sarhad.
Y mae tyst gonest yn dweud y gwir,
ond celwydd a draetha'r gau dyst.
Y mae geiriau'r straegar fel brath cleddyf,
ond y mae tafod y doeth yn iacháu.
Erys geiriau gwir am byth,
ond ymadrodd celwyddog am eiliad.
Dichell sydd ym meddwl y rhai sy'n cynllwynio drwg,
ond daw llawenydd i'r rhai sy'n cynllunio heddwch.
Ni ddaw unrhyw niwed i'r cyfiawn,
ond bydd y drygionus yn llawn helbul.
Y mae geiriau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD,
ond y mae'r rhai sy'n gweithredu'n gywir wrth ei fodd.
Y mae'r call yn cuddio'i wybodaeth,
ond ffyliaid yn cyhoeddi eu ffolineb.
Yn llaw y rhai diwyd y mae'r awdurdod,
ond y mae diogi yn arwain i gaethiwed.
Y mae pryder meddwl yn llethu rhywun,
ond llawenheir ef gan air caredig.