Y mae'r sawl sy'n caru disgyblaeth yn caru gwybodaeth, ond hurtyn sy'n casáu cerydd. Y mae'r daionus yn ennill ffafr yr ARGLWYDD, ond condemnir y dichellgar. Ni ddiogelir neb trwy ddrygioni, ac ni ddiwreiddir y cyfiawn. Y mae gwraig fedrus yn goron i'w gŵr, ond un ddigywilydd fel pydredd yn ei esgyrn. Y mae bwriadau'r cyfiawn yn gywir, ond cynlluniau'r drygionus yn dwyllodrus. Cynllwyn i dywallt gwaed yw geiriau'r drygionus, ond y mae ymadroddion y cyfiawn yn eu gwaredu. Dymchwelir y drygionus, a derfydd amdanynt, ond saif tŷ'r cyfiawn yn gadarn. Canmolir rhywun ar sail ei ddeall, ond gwawdir y meddwl troëdig. Gwell bod yn ddiymhongar ac yn ennill tamaid, na bod yn ymffrostgar a heb fwyd. Y mae'r cyfiawn yn ystyriol o'i anifail, ond y mae'r drygionus yn ddidostur. Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd, ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn ddisynnwyr. Blysia'r drygionus am ysbail drygioni, ond y mae gwreiddyn y cyfiawn yn sicr. Meglir y drwg gan dramgwydd ei eiriau, ond dianc y cyfiawn rhag adfyd. Trwy ffrwyth ei eiriau y digonir pob un â daioni, a thelir iddo yn ôl yr hyn a wnaeth.
Darllen Diarhebion 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 12:1-14
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos