Y mae gwraig raslon yn cael clod, ond pobl ddidostur sy'n ennill cyfoeth. Dwyn elw iddo'i hun y mae'r trugarog, ond ei niweidio'i hun y mae'r creulon. Gwneud elw twyllodrus y mae'r drygionus, ond caiff yr un sy'n hau cyfiawnder gyflog teg. I'r un sy'n glynu wrth gyfiawnder daw bywyd, ond i'r sawl sy'n dilyn drygioni marwolaeth. Y mae'r rhai gwrthnysig yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, ond y mae'r rhai cywir wrth ei fodd. Y mae'n sicr na chaiff un drwg osgoi cosb, ond caiff plant y cyfiawn fynd yn rhydd. Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch, felly y mae gwraig brydferth heb synnwyr. Dymuno'r hyn sydd dda a wna'r cyfiawn, ond diflanna gobaith y drygionus. Y mae un yn hael, ac eto'n ennill cyfoeth, ond arall yn grintach, a phob amser mewn angen. Llwydda'r un a wasgar fendithion, a diwellir yr un a ddiwalla eraill. Y mae pobl yn melltithio'r un sy'n cronni ŷd, ond yn bendithio'r sawl sy'n ei werthu. Y mae'r un sy'n ceisio daioni yn ennill ffafr, ond syrth drygioni ar y sawl sy'n ei ddilyn. Cwympa'r un sy'n ymddiried yn ei gyfoeth, ond ffynna'r cyfiawn fel deilen werdd. Y mae'r un sy'n peri helbul i'w deulu'n etifeddu'r gwynt, a bydd y ffôl yn was i'r doeth. Ffrwyth cyfiawnder yw pren y bywyd, ond y mae trais yn difa bywydau. Os caiff y cyfiawn ei dalu ar y ddaear, pa faint mwy y drygionus a'r pechadur?
Darllen Diarhebion 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 11:16-31
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos