Bellach, gyfeillion, llawenhewch yn yr Arglwydd. Nid yw ysgrifennu'r un pethau atoch yn drafferth i mi, ac i chwi y mae'n ddiogelwch. Gwyliwch y cŵn, gwyliwch y drwgweithredwyr, gwyliwch y rhai nad ydynt ond yn gwaedu'r cnawd. Oherwydd ni yw'r rhai gwir enwaededig, ni sy'n addoli trwy Ysbryd Duw, ac yn ymfalchïo yng Nghrist Iesu heb ymddiried yn y cnawd— er bod gennyf, o'm rhan fy hun, le i ymddiried yn y cnawd hefyd. Os oes rhywun arall yn tybio fod ganddo le i ymddiried yn y cnawd, yr wyf fi'n fwy felly: wedi enwaedu arnaf yr wythfed dydd, o hil Israel, o lwyth Benjamin, yn Hebrëwr o dras Hebrewyr; yn ôl y Gyfraith, yn Pharisead; o ran sêl, yn erlid yr eglwys; yn ôl y cyfiawnder sy'n perthyn i'r Gyfraith, yn ddi-fai. Ond beth bynnag oedd yn ennill i mi, yr wyf yn awr yn ei ystyried yn golled oherwydd Crist. A mwy na hynny hyd yn oed, yr wyf yn dal i gyfrif pob peth yn golled, ar bwys rhagoriaeth y profiad o adnabod Crist Iesu fy Arglwydd, yr un y collais bob peth o'i herwydd. Yr wyf yn cyfrif y cwbl yn ysbwriel, er mwyn imi ennill Crist a'm cael ynddo ef, heb ddim cyfiawnder o'm heiddo fy hun sy'n tarddu o'r Gyfraith, ond hwnnw sydd trwy ffydd yng Nghrist, y cyfiawnder sydd o Dduw ar sail ffydd.
Darllen Philipiaid 3
Gwranda ar Philipiaid 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Philipiaid 3:1-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos