Ond yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus atoch ar fyrder, er mwyn imi gael fy nghalonogi o wybod am eich amgylchiadau chwi. Oherwydd nid oes gennyf neb o gyffelyb ysbryd iddo ef, i gymryd gwir ofal am eich buddiannau chwi; y maent oll â'u bryd ar eu dibenion eu hunain, nid ar ddibenion Iesu Grist. Gwyddoch fel y profwyd ei werth ef, gan iddo wasanaethu gyda mi, fel mab gyda'i dad, o blaid yr Efengyl. Dyma'r gŵr, ynteu, yr wyf yn gobeithio'i anfon, cyn gynted byth ag y caf weld sut y bydd hi arnaf. Ac yr wyf yn sicr, yn yr Arglwydd, y byddaf fi fy hun hefyd yn dod yn fuan. Yr wyf yn credu hefyd y dylwn anfon Epaffroditus atoch, brawd a chydweithiwr a chydfilwr i mi, a'ch cennad chwi i weini ar fy anghenraid i. Oherwydd y mae ef wedi bod yn hiraethu amdanoch oll, ac yn poeni am i chwi glywed iddo fod yn glaf. Yn wir, fe fu'n wael, hyd at farw bron; ond fe dosturiodd Duw wrtho, ac nid wrtho ef yn unig ond wrthyf finnau hefyd, rhag imi gael gofid ar ben gofid. Yr wyf, felly, yn fwy eiddgar i'w anfon, er mwyn i chwi lawenhau eto o'i weld, ac i minnau fod yn llai fy ngofid. Derbyniwch ef felly yn yr Arglwydd gyda phob llawenydd; ac anrhydeddwch rai o'i fath ef, oherwydd bu yn ymyl marw er mwyn gwaith Crist pan fentrodd ei fywyd i gyflawni drosof y gwasanaeth na allech chwi mo'i gyflawni.
Darllen Philipiaid 2
Gwranda ar Philipiaid 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Philipiaid 2:19-30
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos