Oherwydd, i mi, Crist yw byw, ac elw yw marw. Ond os wyf i barhau i fyw yn y cnawd, bydd hynny'n golygu y caf ffrwyth o'm llafur. Eto, ni wn beth i'w ddewis. Y mae'n gyfyng arnaf o'r ddeutu; y mae arnaf awydd ymadael a bod gyda Christ, gan fod hynny'n llawer iawn gwell; ond y mae aros yn fy nghnawd yn fwy angenrheidiol er eich mwyn chwi. Rwy'n gwybod hyn i sicrwydd: aros a wnaf, a phara i aros gyda chwi oll, i hyrwyddo eich cynnydd a'ch llawenydd yn y ffydd, er mwyn ichwi ymffrostio fwyfwy, yng Nghrist Iesu, o'm hachos i pan ddof yn ôl atoch. Yn anad dim, bydded eich buchedd yn deilwng o Efengyl Crist, er mwyn imi weld, os dof atoch, neu glywed amdanoch, os byddaf yn absennol, eich bod yn sefyll yn gadarn, yn un o ran ysbryd, gan gydymdrechu yn unfryd dros ffydd yr Efengyl
Darllen Philipiaid 1
Gwranda ar Philipiaid 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Philipiaid 1:21-27
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos