Gweledigaeth Obadeia. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW am Edom (clywsom genadwri gan yr ARGLWYDD; anfonwyd cennad i blith y cenhedloedd: “Codwch! Gadewch inni fynd i frwydr yn eu herbyn”): “Wele, gwnaf di'n fychan ymysg y cenhedloedd, ac fe'th lwyr ddirmygir. Twyllwyd di gan dy galon falch, ti sy'n byw yn agennau'r graig, a'th drigfan yn uchel; dywedi yn dy galon, ‘Pwy a'm tyn i'r llawr?’ Er iti esgyn cyn uched â'r eryr, a gosod dy nyth ymysg y sêr, fe'th hyrddiaf i lawr oddi yno,” medd yr ARGLWYDD. “Pe dôi lladron atat, neu ysbeilwyr liw nos (O fel y'th ddinistriwyd!), onid digon iddynt eu hunain yn unig a ysbeilient? Pe dôi cynaeafwyr grawnwin atat, oni adawent loffion? O fel yr anrheithiwyd Esau, ac yr ysbeiliwyd ei drysorau! Y mae dy holl gynghreiriaid wedi dy dwyllo, y maent wedi dy yrru dros y terfyn; y mae dy gyfeillion wedi dy drechu, dy wahoddedigion wedi gosod magl i ti— nid oes deall ar hyn.”
Darllen Obadeia 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Obadeia 1:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos