Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 7

7
Offrymau'r Arweinwyr
1Ar y dydd y gorffennodd Moses godi'r tabernacl, fe'i heneiniodd a'i gysegru ynghyd â'i holl ddodrefn, yr allor a'i holl lestri. 2Yna daeth arweinwyr Israel, sef y pennau-teuluoedd ac arweinwyr y llwythau oedd yn goruchwylio'r rhai a gyfrifwyd, 3a chyflwyno'u hoffrwm gerbron yr ARGLWYDD; yr oedd ganddynt chwech o gerbydau a gorchudd drostynt, a deuddeg o ychen, un cerbyd ar gyfer pob dau arweinydd, ac ych ar gyfer pob un. Wedi iddynt ddod â'u hoffrymau o flaen y tabernacl, 4dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 5“Cymer y rhain ganddynt i'w defnyddio yng ngwasanaeth pabell y cyfarfod, a rho hwy i'r Lefiaid, i bob un yn ôl gofynion ei waith.” 6Felly cymerodd Moses y cerbydau a'r ychen, a'u rhoi i'r Lefiaid. 7Rhoddodd ddau gerbyd a phedwar ych i feibion Gerson, yn ôl gofynion eu gwaith, 8a phedwar cerbyd ac wyth ych i feibion Merari, yn ôl gofynion eu gwaith; yr oeddent hwy dan awdurdod Ithamar fab Aaron yr offeiriad. 9Ond ni roddodd yr un i feibion Cohath, oherwydd ar eu hysgwyddau yr oeddent hwy i gludo'r pethau cysegredig oedd dan eu gofal. 10Ar y dydd yr eneiniwyd yr allor, daeth yr arweinwyr â'r aberthau a'u hoffrymu o flaen yr allor i'w chysegru. 11Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Bydd un arweinydd bob dydd yn cyflwyno'i offrymau i gysegru'r allor.”
12Yr arweinydd a gyflwynodd ei offrwm ar y dydd cyntaf oedd Nahson fab Amminadab o lwyth Jwda. 13Ei offrwm ef oedd: plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; 14dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; 15bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; 16bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; 17dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Nahson fab Amminadab.
18Ar yr ail ddydd, offrymodd Nethanel fab Suar, arweinydd Issachar, ei offrwm yntau: 19plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; 20dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; 21bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; 22bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; 23dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Nethanel fab Suar.
24Ar y trydydd dydd, offrymodd Eliab fab Helon, arweinydd pobl Sabulon, ei offrwm yntau: 25plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; 26dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; 27bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; 28bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; 29dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Eliab fab Helon.
30Ar y pedwerydd dydd, offrymodd Elisur fab Sedeur, arweinydd pobl Reuben, ei offrwm yntau: 31plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; 32dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; 33bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; 34bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; 35dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Elisur fab Sedeur.
36Ar y pumed dydd, offrymodd Selumiel fab Surisadai, arweinydd pobl Simeon, ei offrwm yntau: 37plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; 38dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; 39bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; 40bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; 41dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Selumiel fab Surisadai.
42Ar y chweched dydd, offrymodd Eliasaff fab Reuel#7:42 Tebygol. Cymh. 1:14. Hebraeg, Deuel., arweinydd pobl Gad, ei offrwm yntau: 43plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; 44dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; 45bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; 46bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; 47dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Eliasaff fab Reuel#7:47 Tebygol. Cymh. 1:14. Hebraeg, Deuel..
48Ar y seithfed dydd, offrymodd Elisama fab Ammihud, arweinydd pobl Effraim, ei offrwm yntau: 49plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; 50dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; 51bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; 52bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; 53dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Elisama fab Ammihud.
54Ar yr wythfed dydd, offrymodd Gamaliel fab Pedasur, arweinydd pobl Manasse, ei offrwm yntau: 55plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; 56dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; 57bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; 58bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; 59dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Gamaliel fab Pedasur.
60Ar y nawfed dydd, offrymodd Abidan fab Gideoni, arweinydd pobl Benjamin, ei offrwm yntau: 61plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; 62dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; 63bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; 64bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; 65dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Abidan fab Gideoni.
66Ar y degfed dydd, offrymodd Ahieser fab Ammisadai, arweinydd pobl Dan, ei offrwm yntau: 67plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; 68dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; 69bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; 70bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; 71dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Ahieser fab Ammisadai.
72Ar yr unfed dydd ar ddeg, offrymodd Pagiel fab Ocran, arweinydd pobl Aser, ei offrwm yntau: 73plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; 74dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; 75bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; 76bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; 77dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Pagiel fab Ocran.
78Ar y deuddegfed dydd, offrymodd Ahira fab Enan, arweinydd pobl Nafftali, ei offrwm yntau: 79plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; 80dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; 81bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; 82bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; 83dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Ahira fab Enan.
84Dyma oedd yr offrwm gan arweinwyr Israel ar gyfer cysegru'r allor ar y dydd yr eneiniwyd hi: deuddeg plât arian, deuddeg cawg arian a deuddeg dysgl aur, 85a phob plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, pob cawg arian yn pwyso saith deg o siclau, a'r holl lestri arian yn pwyso dwy fil pedwar cant o siclau, yn ôl sicl y cysegr; 86hefyd, deuddeg dysgl aur yn llawn o arogldarth, pob un yn pwyso deg sicl, yn ôl sicl y cysegr, a'r holl ddysglau aur yn pwyso cant ac ugain o siclau; 87hefyd, gwartheg ar gyfer y poethoffrwm, yn gyfanswm o ddeuddeg bustach, deuddeg hwrdd, deuddeg oen gwryw gyda'r bwydoffrwm; yr oedd deuddeg bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; 88gwartheg ar gyfer aberth yr heddoffrwm, yn gyfanswm o bedwar ar hugain o fustych, trigain hwrdd, trigain bwch, a thrigain oen gwryw. Dyma oedd yr offrwm ar gyfer cysegru'r allor, wedi ei heneinio.
89Pan aeth Moses i mewn i babell y cyfarfod i lefaru wrth yr ARGLWYDD, clywodd lais yn galw arno o'r drugareddfa oedd ar arch y dystiolaeth rhwng y ddau gerwb; ac yr oedd y llais yn siarad ag ef.

Dewis Presennol:

Numeri 7: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd