Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 34

34
Terfynau'r Wlad
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2“Gorchymyn bobl Israel, a dywed wrthynt, ‘Pan fyddwch yn mynd i mewn i wlad Canaan, bydd terfynau'r wlad a gewch yn etifeddiaeth fel a ganlyn: 3i'r de bydd yn ymestyn o anialwch Sin a heibio i Edom, ac yn y dwyrain bydd eich terfyn deheuol yn ymestyn o ben draw Môr yr Heli, 4ac yn troi o lethrau Acrabbim a throsodd i Sin, ac yna i'r de o Cades-barnea; oddi yno â ymlaen i Hasar-adar a throsodd i Asmon; 5yna fe dry'r terfyn o Asmon at nant yr Aifft, a gorffen wrth y môr.
6“ ‘I'r gorllewin, y terfyn fydd y Môr Mawr a'r arfordir; hwn fydd eich terfyn gorllewinol.
7“ ‘Dyma fydd eich terfyn i'r gogledd: tynnwch linell o'r Môr Mawr i Fynydd Hor, 8ac o Fynydd Hor i Lebo-hamath; bydd y terfyn yn cyrraedd hyd Sedad, 9yna'n ymestyn i Siffron, a gorffen yn Hasar-enan; dyma fydd eich terfyn gogleddol.
10“ ‘Ar ochr y dwyrain, tynnwch linell o Hasar-enan i Seffan; 11fe â'r terfyn i lawr o Seffan i Ribla, i'r dwyrain o Ain, ac yna i lawr ymhellach ar hyd y llechweddau i'r dwyrain o Fôr Cinnereth; 12yna fe â'r terfyn i lawr ar hyd yr Iorddonen, a gorffen wrth Fôr yr Heli. Hon fydd eich gwlad, a'r rhain fydd ei therfynau oddi amgylch.’ ”
13Rhoddodd Moses orchymyn i bobl Israel, a dweud, “Dyma'r wlad yr ydych i'w rhannu'n etifeddiaeth trwy goelbren, a'i rhoi i'r naw llwyth a hanner, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD; 14y mae llwythau teuluoedd meibion Reuben a Gad a hanner llwyth Manasse eisoes wedi derbyn eu hetifeddiaeth; 15derbyniodd y ddau lwyth a hanner eu hetifeddiaeth hwy yr ochr draw i'r Iorddonen, i'r dwyrain o Jericho, tua chodiad haul.”
Rhannu'r Etifeddiaeth
16Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 17“Dyma enwau'r dynion sydd i rannu'r wlad yn etifeddiaeth i chwi: Eleasar yr offeiriad, a Josua fab Nun. 18Cymerwch hefyd un pennaeth o bob llwyth i rannu'r wlad yn etifeddiaeth. 19Dyma eu henwau: o lwyth Jwda, Caleb fab Jeffunne; 20o lwyth meibion Simeon, Semuel fab Ammihud; 21o lwyth Benjamin, Elidad fab Cislon; 22o lwyth meibion Dan, y pennaeth fydd Bucci fab Jogli; 23o feibion Joseff: o lwyth meibion Manasse, y pennaeth fydd Haniel fab Effad; 24o lwyth meibion Effraim, y pennaeth fydd Cemuel fab Sifftan; 25o lwyth meibion Sabulon, y pennaeth fydd Elisaffan fab Parnach; 26o lwyth meibion Issachar, y pennaeth fydd Paltiel fab Assan; 27o lwyth meibion Aser, y pennaeth fydd Ahihud fab Salomi; 28o lwyth meibion Nafftali, y pennaeth fydd Pedahel fab Ammihud. 29Dyma'r dynion y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddynt rannu'r etifeddiaeth i bobl Israel yng ngwlad Canaan.”

Dewis Presennol:

Numeri 34: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda