Dechreuodd yr holl gynulliad weiddi'n uchel, a bu'r bobl yn wylo trwy'r noson honno. Yr oedd yr Israeliaid i gyd yn grwgnach yn erbyn Moses ac Aaron, a dywedodd y cynulliad wrthynt, “O na buasem wedi marw yng ngwlad yr Aifft neu yn yr anialwch hwn! Pam y mae'r ARGLWYDD yn mynd â ni i'r wlad hon lle byddwn yn syrthio trwy fin y cleddyf, a lle bydd ein gwragedd a'n plant yn ysbail? Oni fyddai'n well inni ddychwelyd i'r Aifft?” Dywedasant wrth ei gilydd, “Dewiswn un yn ben arnom, a dychwelwn i'r Aifft.” Yna ymgrymodd Moses ac Aaron o flaen holl aelodau cynulliad pobl Israel. Dechreuodd Josua fab Nun a Caleb fab Jeffunne, a fu'n ysbïo'r wlad, rwygo'u dillad, a dweud wrth holl gynulliad pobl Israel, “Y mae'r wlad yr aethom drwyddi i'w hysbïo yn wlad dda iawn. Os bydd yr ARGLWYDD yn fodlon arnom, fe'n harwain i mewn i'r wlad hon sy'n llifeirio o laeth a mêl, a'i rhoi inni. Ond peidiwch â gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, a pheidiwch ag ofni trigolion y wlad, oherwydd byddant yn ysglyfaeth i ni. Y mae'r ARGLWYDD gyda ni, ond y maent hwy yn ddiamddiffyn; felly peidiwch â'u hofni.” Tra oedd yr holl Israeliaid yn sôn am eu llabyddio, ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD iddynt ym mhabell y cyfarfod.
Darllen Numeri 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Numeri 14:1-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos