Dywedasant wrth Moses, “Daethom i'r wlad yr anfonaist ni iddi, a'i chael yn llifeirio o laeth a mêl, a dyma beth o'i ffrwyth. Ond y mae'r bobl sy'n byw yn y wlad yn gryf; y mae'r dinasoedd yn gaerog ac yn fawr iawn, a gwelsom yno ddisgynyddion Anac. Y mae'r Amaleciaid yn byw yng ngwlad y Negef; yr Hethiaid, y Jebusiaid a'r Amoriaid yn byw yn y mynydd-dir; a'r Canaaneaid wrth y môr, a gerllaw'r Iorddonen.” Yna galwodd Caleb ar i'r bobl dawelu o flaen Moses, a dywedodd, “Gadewch inni fynd i fyny ar unwaith i feddiannu'r wlad, oherwydd yr ydym yn sicr o fedru ei gorchfygu.” Ond dywedodd y dynion oedd wedi mynd gydag ef, “Ni allwn fynd i fyny yn erbyn y bobl, oherwydd y maent yn gryfach na ni.” Felly rhoesant adroddiad gwael i'r Israeliaid am y wlad yr oeddent wedi ei hysbïo, a dweud, “Y mae'r wlad yr aethom drwyddi i'w hysbïo yn difa ei thrigolion, ac y mae'r holl bobl a welsom ynddi yn anferth. Gwelsom yno y Neffilim (y mae meibion Anac yn ddisgynyddion y Neffilim); nid oeddem yn ein gweld ein hunain yn ddim mwy na cheiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn ymddangos iddynt hwythau.”
Darllen Numeri 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Numeri 13:27-33
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos