Wrth i Moses eu hanfon i ysbïo gwlad Canaan, dywedodd wrthynt, “Ewch i fyny trwy'r Negef i'r mynydd-dir, ac edrychwch pa fath wlad yw hi: p'run ai cryf ynteu gwan, ychydig ynteu niferus yw'r bobl sy'n byw ynddi; p'run ai da ynteu drwg yw'r tir lle y maent yn byw; p'run ai gwersylloedd ynteu amddiffynfeydd yw eu dinasoedd; p'run ai ffrwythlon ynteu llwm yw'r wlad; ac a oes coed ynddi ai peidio. Byddwch ddewr, a chymerwch beth o gynnyrch y tir.” Adeg blaenffrwyth y grawnwin aeddfed oedd hi. Felly, aethant i fyny i ysbïo'r wlad o anialwch Sin hyd Rehob, ger Lebo-hamath. Aethant i fyny trwy'r Negef a chyrraedd Hebron; yno yr oedd Ahiman, Sesai a Talmai, disgynyddion Anac. (Adeiladwyd Hebron saith mlynedd cyn Soan yn yr Aifft.) Pan ddaethant i ddyffryn Escol, torasant gangen ac arni glwstwr o rawnwin, ac yr oedd dau yn ei chario ar drosol; daethant hefyd â phomgranadau a ffigys. Galwyd y lle yn ddyffryn Escol oherwydd y clwstwr o rawnwin a dorrodd yr Israeliaid yno. Ar ôl ysbïo'r wlad am ddeugain diwrnod, daethant yn ôl i Cades yn anialwch Paran at Moses, Aaron a holl gynulliad pobl Israel. Adroddasant y newyddion wrthynt hwy a'r holl gynulliad, a dangos iddynt ffrwyth y tir.
Darllen Numeri 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Numeri 13:17-26
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos