Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 13:1-33

Numeri 13:1-33 BCND

Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Anfon ddynion i ysbïo Canaan, y wlad yr wyf yn ei rhoi i bobl Israel; yr wyt i anfon pennaeth o bob un o lwythau eu hynafiaid.” Felly, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD, anfonodd Moses hwy allan o anialwch Paran, pob un ohonynt yn flaenllaw ymhlith pobl Israel. Dyma eu henwau: o lwyth Reuben: Sammua fab Saccur; o lwyth Simeon: Saffat fab Hori; o lwyth Jwda: Caleb fab Jeffunne; o lwyth Issachar: Igal fab Joseff; o lwyth Effraim: Hosea fab Nun; o lwyth Benjamin: Palti fab Raffu; o lwyth Sabulon: Gadiel fab Sodi; o lwyth Joseff, sef o lwyth Manasse: Gadi fab Susi; o lwyth Dan: Ammiel fab Gemali; o lwyth Aser: Sethur fab Michael; o lwyth Nafftali: Nahbi fab Foffsi; o lwyth Gad: Geuel fab Maci. Dyna enwau'r dynion a anfonodd Moses i ysbïo'r wlad. Rhoddodd Moses yr enw Josua i Hosea fab Nun. Wrth i Moses eu hanfon i ysbïo gwlad Canaan, dywedodd wrthynt, “Ewch i fyny trwy'r Negef i'r mynydd-dir, ac edrychwch pa fath wlad yw hi: p'run ai cryf ynteu gwan, ychydig ynteu niferus yw'r bobl sy'n byw ynddi; p'run ai da ynteu drwg yw'r tir lle y maent yn byw; p'run ai gwersylloedd ynteu amddiffynfeydd yw eu dinasoedd; p'run ai ffrwythlon ynteu llwm yw'r wlad; ac a oes coed ynddi ai peidio. Byddwch ddewr, a chymerwch beth o gynnyrch y tir.” Adeg blaenffrwyth y grawnwin aeddfed oedd hi. Felly, aethant i fyny i ysbïo'r wlad o anialwch Sin hyd Rehob, ger Lebo-hamath. Aethant i fyny trwy'r Negef a chyrraedd Hebron; yno yr oedd Ahiman, Sesai a Talmai, disgynyddion Anac. (Adeiladwyd Hebron saith mlynedd cyn Soan yn yr Aifft.) Pan ddaethant i ddyffryn Escol, torasant gangen ac arni glwstwr o rawnwin, ac yr oedd dau yn ei chario ar drosol; daethant hefyd â phomgranadau a ffigys. Galwyd y lle yn ddyffryn Escol oherwydd y clwstwr o rawnwin a dorrodd yr Israeliaid yno. Ar ôl ysbïo'r wlad am ddeugain diwrnod, daethant yn ôl i Cades yn anialwch Paran at Moses, Aaron a holl gynulliad pobl Israel. Adroddasant y newyddion wrthynt hwy a'r holl gynulliad, a dangos iddynt ffrwyth y tir. Dywedasant wrth Moses, “Daethom i'r wlad yr anfonaist ni iddi, a'i chael yn llifeirio o laeth a mêl, a dyma beth o'i ffrwyth. Ond y mae'r bobl sy'n byw yn y wlad yn gryf; y mae'r dinasoedd yn gaerog ac yn fawr iawn, a gwelsom yno ddisgynyddion Anac. Y mae'r Amaleciaid yn byw yng ngwlad y Negef; yr Hethiaid, y Jebusiaid a'r Amoriaid yn byw yn y mynydd-dir; a'r Canaaneaid wrth y môr, a gerllaw'r Iorddonen.” Yna galwodd Caleb ar i'r bobl dawelu o flaen Moses, a dywedodd, “Gadewch inni fynd i fyny ar unwaith i feddiannu'r wlad, oherwydd yr ydym yn sicr o fedru ei gorchfygu.” Ond dywedodd y dynion oedd wedi mynd gydag ef, “Ni allwn fynd i fyny yn erbyn y bobl, oherwydd y maent yn gryfach na ni.” Felly rhoesant adroddiad gwael i'r Israeliaid am y wlad yr oeddent wedi ei hysbïo, a dweud, “Y mae'r wlad yr aethom drwyddi i'w hysbïo yn difa ei thrigolion, ac y mae'r holl bobl a welsom ynddi yn anferth. Gwelsom yno y Neffilim (y mae meibion Anac yn ddisgynyddion y Neffilim); nid oeddem yn ein gweld ein hunain yn ddim mwy na cheiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn ymddangos iddynt hwythau.”