Yr oedd gan Miriam ac Aaron gŵyn yn erbyn Moses oherwydd y wraig o Ethiopia yr oedd wedi ei phriodi, a gofynasant, “Ai trwy Moses yn unig y llefarodd yr ARGLWYDD? Oni lefarodd hefyd trwom ni?” A chlywodd yr ARGLWYDD hwy. Yr oedd Moses yn ddyn gostyngedig iawn, yn fwy felly na neb ar wyneb y ddaear. Yn sydyn, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Aaron a Miriam, “Dewch allan eich tri at babell y cyfarfod,” a daeth y tri ohonynt allan. Daeth yr ARGLWYDD i lawr mewn colofn o gwmwl, a sefyll wrth ddrws y babell, a phan alwodd ar Aaron a Miriam, daeth y ddau ohonynt ymlaen. Yna dywedodd,
“Gwrandewch yn awr ar fy ngeiriau:
Os oes proffwyd yr ARGLWYDD yn eich plith,
datguddiaf fy hun iddo mewn gweledigaeth,
a llefaraf wrtho mewn breuddwyd.
Ond nid felly y mae gyda'm gwas Moses;
ef yn unig o'm holl dŷ sy'n ffyddlon.
Llefaraf ag ef wyneb yn wyneb,
yn eglur, ac nid mewn posau;
caiff ef weled ffurf yr ARGLWYDD.
Pam, felly, nad oedd arnoch ofn
cwyno yn erbyn fy ngwas Moses?”
Enynnodd llid yr ARGLWYDD yn eu herbyn, ac aeth ymaith. Pan gododd y cwmwl oddi ar y babell, yr oedd Miriam yn wahanglwyfus, ac yn wyn fel yr eira. Trodd Aaron ati, a gwelodd ei bod yn wahanglwyfus. Yna dywedodd wrth Moses, “O f'arglwydd, paid â chyfrif yn ein herbyn y pechod hwn y buom mor ffôl â'i wneud. Paid â gadael i Miriam fod fel erthyl yn dod allan o groth y fam, a'r cnawd wedi hanner ei ddifa.” Felly galwodd Moses ar yr ARGLWYDD, “O Dduw, yr wyf yn erfyn arnat ei hiacháu.”