Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 10

10
Yr Utgyrn Arian
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2“Gwna ddau drwmped o arian gyr, a defnyddia hwy i alw'r cynulliad ynghyd, er mwyn i'r gwersyll gychwyn ar ei daith. 3Os cenir y ddau drwmped, bydd yr holl gynulliad yn ymgasglu atat wrth ddrws pabell y cyfarfod; 4ond os un ohonynt a genir, yna yr arweinwyr yn unig, sef penaethiaid llwythau Israel, fydd yn ymgasglu atat. 5Pan roddir bloedd, bydd y gwersylloedd ar ochr y dwyrain yn cychwyn ar eu taith, 6a phan roddir yr ail floedd, bydd y gwersylloedd ar ochr y de yn cychwyn. 7Fe roddir bloedd pryd bynnag y byddant yn cychwyn ar eu taith. 8Pan yw'r cynulliad i ymgasglu ynghyd, fe genir y trwmped, ond ni roddir bloedd. Meibion Aaron, yr offeiriaid, sydd i ganu'r trwmpedau, a bydd hyn yn ddeddf i'w chadw gennych am byth, dros y cenedlaethau. 9Pan fyddwch yn mynd i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y rhai sy'n eich gorthrymu, rhowch floedd a chanu'r trwmpedau, er mwyn i'r ARGLWYDD eich Duw gofio amdanoch, a'ch achub rhag eich gelynion. 10Hefyd, ar ddydd o lawenydd, ar eich gwyliau penodedig, ac ar ddechrau pob mis, canwch y trwmpedau uwchben eich poethoffrymau a'ch heddoffrymau; byddant yn eich dwyn i gof gerbron eich Duw. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.”
Yr Israeliaid yn Ailgychwyn ar eu Taith
11Ar yr ugeinfed dydd o'r ail fis o'r ail flwyddyn, cododd y cwmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth, 12a chychwynnodd pobl Israel yn gwmnïau ar eu taith o anialwch Sinai; yna arhosodd y cwmwl yn anialwch Paran. 13Felly cychwynasant allan am y tro cyntaf ar orchymyn yr ARGLWYDD trwy Moses.
14Minteioedd gwersyll Jwda oedd y rhai cyntaf i gychwyn dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Nahson fab Amminadab. 15Dros lu llwyth pobl Issachar yr oedd Nethanel fab Suar, 16a thros lu llwyth pobl Sabulon yr oedd Eliab fab Helon.
17Wedi tynnu'r tabernacl i lawr, fe gychwynnodd meibion Gerson a meibion Merari, gan mai hwy oedd yn cario'r tabernacl. 18Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll Reuben dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Elisur fab Sedeur. 19Dros lu llwyth pobl Simeon yr oedd Selumiel fab Surisadai, 20a thros lu llwyth pobl Gad yr oedd Eliasaff fab Reuel#10:20 Tebygol. Cymh. 1:14. Hebraeg, Deuel..
21Yna cychwynnodd y Cohathiaid, gan gludo'r pethau cysegredig, a chodwyd y tabernacl cyn iddynt hwy gyrraedd. 22Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll pobl Effraim dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Elisama fab Ammihud. 23Dros lu llwyth pobl Manasse yr oedd Gamaliel fab Pedasur, 24a thros lu llwyth pobl Benjamin yr oedd Abidan fab Gideoni.
25Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll pobl Dan, y gwersyll olaf un, dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Ahieser fab Ammisadai. 26Dros lu llwyth pobl Aser yr oedd Pagiel fab Ocran, 27a thros lu llwyth pobl Nafftali yr oedd Ahira fab Enan. 28Dyma drefn pobl Israel wrth iddynt gychwyn allan yn ôl eu lluoedd.
29Dywedodd Moses wrth Hobab fab Reuel y Midianiad, tad-yng-nghyfraith Moses, “Yr ydym yn mynd i'r lle yr addawodd yr ARGLWYDD ei roi inni; tyrd gyda ni, a byddwn yn garedig wrthyt, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi addo pethau da i Israel.” 30Ond atebodd ef, “Nid wyf am ddod; af yn hytrach i'm gwlad fy hun ac at fy mhobl fy hun.” 31Dywedodd Moses, “Paid â'n gadael, oherwydd fe wyddost ti lle cawn wersyllu yn yr anialwch, a gelli ein harwain. 32Os doi gyda ni, fe gei ran yn y pethau da a wna'r ARGLWYDD drosom, a byddwn yn garedig wrthyt.”
Y Bobl yn Cychwyn Allan
33Felly cychwynasant o fynydd yr ARGLWYDD ar daith dridiau, ac yr oedd arch cyfamod yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaen ar hyd y daith i geisio lle iddynt orffwys. 34Yr oedd cwmwl yr ARGLWYDD uwchben yn ystod y dydd wrth iddynt gychwyn o'r gwersyll.
35Pan gychwynnai'r arch allan, byddai Moses yn dweud, “Cod, ARGLWYDD, gwasgar d'elynion, a boed i'r rhai sy'n dy gasáu ffoi o'th flaen.” 36A phan ddôi'r arch i orffwys, byddai'n dweud, “Dychwel, ARGLWYDD, at fyrddiynau Israel.”

Dewis Presennol:

Numeri 10: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda