Ond fe aethant yn anufudd
a gwrthryfela yn dy erbyn.
Troesant eu cefnau ar dy gyfraith,
a lladd dy broffwydi
oedd wedi eu rhybuddio i ddychwelyd atat,
a chablu'n ddirfawr.
Felly rhoddaist hwy yn llaw eu gorthrymwyr,
a chawsant eu gorthrymu.
Yn eu cyfyngder gwaeddasant arnat,
ac fe wrandewaist tithau o'r nefoedd;
yn dy drugaredd fawr rhoddaist achubwyr iddynt
i'w gwaredu o law eu gorthrymwyr.
Ond pan gawsant lonydd,
dechreusant eto wneud drwg yn dy olwg.
Gadewaist hwy i'w gelynion,
a chawsant eu mathru.
Unwaith eto galwasant arnat,
a gwrandewaist tithau o'r nefoedd,
a'u hachub lawer gwaith yn dy drugaredd.
Fe'u rhybuddiaist i ddychwelyd at dy gyfraith,
ond aethant yn falch
a gwrthod ufuddhau i'th orchmynion;
pechasant yn erbyn dy farnau
sydd yn rhoi bywyd i'r un sy'n eu cadw.
Troesant eu cefnau'n ystyfnig,
a mynd yn wargaled a gwrthod ufuddhau.
Buost yn amyneddgar â hwy
am flynyddoedd lawer,
a'u rhybuddio â'th ysbryd
trwy dy broffwydi,
ond ni wrandawsant;
am hynny rhoddaist hwy yn nwylo pobloedd estron.
Ond yn dy drugaredd fawr
ni ddifethaist hwy yn llwyr na'u gadael,
oherwydd Duw graslon a thrugarog wyt ti.
“Yn awr, O ein Duw,
y Duw mawr, cryf ac ofnadwy,
sy'n cadw cyfamod a thrugaredd,
paid â diystyru'r holl drybini a ddaeth arnom—
ar ein brenhinoedd a'n tywysogion,
ein hoffeiriaid a'n proffwydi a'n hynafiaid,
ac ar dy holl bobl—
o gyfnod brenhinoedd Asyria hyd y dydd hwn.
Buost ti yn gyfiawn
yn yr hyn oll a ddigwyddodd i ni;
buost ti yn ffyddlon,
ond buom ni yn ddrwg.
Ni chadwodd ein brenhinoedd na'n tywysogion,
ein hoffeiriaid na'n hynafiaid, dy gyfraith;
ni wrandawsant ar dy orchmynion,
nac ar y rhybuddion a roddaist iddynt.
Hyd yn oed yn eu teyrnas eu hunain
ynghanol y daioni mawr a ddangosaist tuag atynt,
yn y wlad eang a thoreithiog a roddaist iddynt,
gwrthodasant dy wasanaethu
a throi oddi wrth eu drwgweithredoedd.
Dyma ni heddiw yn gaethweision,
caethweision yn y wlad a roddaist i'n hynafiaid
i fwyta'i ffrwyth a'i braster.
Y mae ei holl gynnyrch yn mynd i'r brenhinoedd
a osodaist arnom am ein pechodau.
Y maent yn rheoli ein cyrff,
ac yn gwneud fel y mynnant â'n hanifeiliaid;
yr ydym ni mewn helbul mawr.”
Oherwydd hyn oll yr ydym yn gwneud ymrwymiad ysgrifenedig, ac y mae ein tywysogion, ein Lefiaid a'n hoffeiriaid, yn ei selio.