Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Nehemeia 9:1-25

Nehemeia 9:1-25 BCND

Ar y pedwerydd ar hugain o'r mis hwn ymgasglodd yr Israeliaid i ymprydio, gan wisgo sachliain a rhoi pridd ar eu pennau. Ymneilltuodd y rhai oedd o linach Israel oddi wrth bob dieithryn, a sefyll a chyffesu eu pechodau a chamweddau eu hynafiaid. Buont yn sefyll yn eu lle am deirawr yn darllen o lyfr cyfraith yr ARGLWYDD eu Duw, ac am deirawr arall yn cyffesu ac yn ymgrymu i'r ARGLWYDD eu Duw. Safodd Jesua, Bani, Cadmiel, Sebaneia, Bunni, Serebeia, Bani a Chenani ar lwyfan y Lefiaid, a galw'n uchel ar yr ARGLWYDD eu Duw. A dywedodd y Lefiaid, hynny yw Jesua, Cadmiel, Bani, Hasabneia, Serebeia, Hodeia, Sebaneia a Pethaheia, “Codwch, bendithiwch yr ARGLWYDD eich Duw o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb: “Bendithier dy enw gogoneddus sy'n ddyrchafedig goruwch pob bendith a moliant. Ti yn unig wyt ARGLWYDD. Ti a wnaeth y nefoedd, nef y nefoedd a'i holl luoedd, y ddaear a'r cwbl sydd arni, y moroedd a'r hyn oll sydd ynddynt; ti sy'n rhoi bwyd iddynt i gyd, ac i ti yr ymgryma llu'r nefoedd. Ti yw yr ARGLWYDD Dduw, ti a ddewisodd Abram a'i dywys o Ur y Caldeaid, a rhoi iddo'r enw Abraham; fe'i cefaist yn ffyddlon i ti, a gwnaethost gyfamod ag ef, i roi i'w ddisgynyddion wlad y Canaaneaid, yr Hethiaid, yr Amoriaid, y Peresiaid, y Jebusiaid a'r Girgasiaid. Ac fe gedwaist dy air, oherwydd cyfiawn wyt ti. “Fe welaist gystudd ein pobl yn yr Aifft, a gwrandewaist ar eu cri wrth y Môr Coch. Gwnaethost arwyddion a rhyfeddodau yn erbyn Pharo a'i holl weision a holl drigolion ei wlad, am dy fod yn gwybod iddynt ymfalchïo yn eu herbyn; a gwnaethost enw i ti dy hun sy'n parhau hyd heddiw. Holltaist y môr o'u blaen, ac aethant drwyddo ar dir sych. Teflaist eu herlidwyr i'r dyfnder, fel carreg i ddyfroedd geirwon. Arweiniaist hwy â cholofn gwmwl liw dydd, a liw nos â cholofn dân, er mwyn goleuo'r ffordd a dramwyent. Daethost i lawr ar Fynydd Sinai, siaredaist â hwy o'r nefoedd. Rhoddaist iddynt farnau cyfiawn a chyfreithiau gwir a deddfau a gorchmynion da. Dywedaist wrthynt am dy Saboth sanctaidd, a thrwy Moses dy was rhoddaist iddynt orchmynion a deddfau a chyfraith. Yn eu newyn rhoddaist iddynt fara o'r nefoedd, a thynnu dŵr o'r graig iddynt yn eu syched. Dywedaist wrthynt am fynd i feddiannu'r wlad y tyngaist ti i'w rhoi iddynt. “Ond aethant hwy, ein hynafiaid, yn falch ac yn ystyfnig, a gwrthod gwrando ar dy orchmynion. Gwrthodasant wrando, ac nid oeddent yn cofio dy ryfeddodau a wnaethost iddynt. Aethant yn ystyfnig a dewis arweinydd er mwyn dychwelyd i'w caethiwed yn yr Aifft. Ond yr wyt ti'n Dduw sy'n maddau, yn raslon a thrugarog, araf i ddigio a llawn ffyddlondeb, ac ni wrthodaist hwy. Hefyd, pan wnaethant lo tawdd a dweud, ‘Dyma dy Dduw a'th ddygodd i fyny o'r Aifft’, a chablu'n ddirfawr, yn dy drugaredd fawr ni chefnaist arnynt yn yr anialwch. Ni chiliodd oddi wrthynt y golofn gwmwl a'u tywysai ar hyd y ffordd liw dydd, na'r golofn dân liw nos, a oleuai'r ffordd a dramwyent. Rhoddaist dy ysbryd daionus i'w cyfarwyddo; nid ateliaist dy fanna rhagddynt; rhoddaist iddynt ddŵr i dorri eu syched. Am ddeugain mlynedd buost yn eu cynnal yn yr anialwch heb fod arnynt eisiau dim; nid oedd eu dillad yn treulio na'u traed yn chwyddo. “Rhoddaist iddynt deyrnasoedd a chenhedloedd, a rhoi cyfran iddynt ymhob congl. Cawsant feddiant o wlad Sihon brenin Hesbon a gwlad Og brenin Basan. Gwnaethost eu plant mor niferus â sêr y nefoedd, a'u harwain i'r wlad y dywedaist wrth eu hynafiaid am fynd iddi i'w meddiannu. Felly fe aeth eu plant a meddiannu'r wlad; darostyngaist tithau drigolion y wlad, y Canaaneaid, o'u blaen, a rhoi yn eu llaw eu brenhinoedd a phobl y wlad, iddynt wneud fel y mynnent â hwy. Enillasant ddinasoedd cedyrn a thir ffrwythlon, a meddiannu tai yn llawn o bethau daionus, pydewau wedi eu cloddio, gwinllannoedd a gerddi olewydd a llawer o goed ffrwythau; bwytasant a chael eu digoni a mynd yn raenus, a mwynhau dy ddaioni mawr.