Ar y pedwerydd ar hugain o'r mis hwn ymgasglodd yr Israeliaid i ymprydio, gan wisgo sachliain a rhoi pridd ar eu pennau. Ymneilltuodd y rhai oedd o linach Israel oddi wrth bob dieithryn, a sefyll a chyffesu eu pechodau a chamweddau eu hynafiaid. Buont yn sefyll yn eu lle am deirawr yn darllen o lyfr cyfraith yr ARGLWYDD eu Duw, ac am deirawr arall yn cyffesu ac yn ymgrymu i'r ARGLWYDD eu Duw. Safodd Jesua, Bani, Cadmiel, Sebaneia, Bunni, Serebeia, Bani a Chenani ar lwyfan y Lefiaid, a galw'n uchel ar yr ARGLWYDD eu Duw. A dywedodd y Lefiaid, hynny yw Jesua, Cadmiel, Bani, Hasabneia, Serebeia, Hodeia, Sebaneia a Pethaheia, “Codwch, bendithiwch yr ARGLWYDD eich Duw o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb:
“Bendithier dy enw gogoneddus
sy'n ddyrchafedig goruwch pob bendith a moliant.
Ti yn unig wyt ARGLWYDD.
Ti a wnaeth y nefoedd,
nef y nefoedd a'i holl luoedd,
y ddaear a'r cwbl sydd arni,
y moroedd a'r hyn oll sydd ynddynt;
ti sy'n rhoi bwyd iddynt i gyd,
ac i ti yr ymgryma llu'r nefoedd.
Ti yw yr ARGLWYDD Dduw,
ti a ddewisodd Abram
a'i dywys o Ur y Caldeaid,
a rhoi iddo'r enw Abraham;
fe'i cefaist yn ffyddlon i ti,
a gwnaethost gyfamod ag ef,
i roi i'w ddisgynyddion wlad y Canaaneaid,
yr Hethiaid, yr Amoriaid,
y Peresiaid, y Jebusiaid a'r Girgasiaid.
Ac fe gedwaist dy air,
oherwydd cyfiawn wyt ti.
“Fe welaist gystudd ein pobl yn yr Aifft,
a gwrandewaist ar eu cri wrth y Môr Coch.
Gwnaethost arwyddion a rhyfeddodau yn erbyn Pharo
a'i holl weision a holl drigolion ei wlad,
am dy fod yn gwybod iddynt ymfalchïo yn eu herbyn;
a gwnaethost enw i ti dy hun sy'n parhau hyd heddiw.
Holltaist y môr o'u blaen,
ac aethant drwyddo ar dir sych.
Teflaist eu herlidwyr i'r dyfnder,
fel carreg i ddyfroedd geirwon.
Arweiniaist hwy â cholofn gwmwl liw dydd,
a liw nos â cholofn dân,
er mwyn goleuo'r ffordd a dramwyent.
Daethost i lawr ar Fynydd Sinai,
siaredaist â hwy o'r nefoedd.
Rhoddaist iddynt farnau cyfiawn
a chyfreithiau gwir
a deddfau a gorchmynion da.
Dywedaist wrthynt am dy Saboth sanctaidd,
a thrwy Moses dy was
rhoddaist iddynt orchmynion a deddfau a chyfraith.
Yn eu newyn rhoddaist iddynt fara o'r nefoedd,
a thynnu dŵr o'r graig iddynt yn eu syched.
Dywedaist wrthynt am fynd i feddiannu'r wlad
y tyngaist ti i'w rhoi iddynt.
“Ond aethant hwy, ein hynafiaid, yn falch ac yn ystyfnig,
a gwrthod gwrando ar dy orchmynion.
Gwrthodasant wrando,
ac nid oeddent yn cofio dy ryfeddodau
a wnaethost iddynt.
Aethant yn ystyfnig a dewis arweinydd
er mwyn dychwelyd i'w caethiwed yn yr Aifft.
Ond yr wyt ti'n Dduw sy'n maddau,
yn raslon a thrugarog,
araf i ddigio a llawn ffyddlondeb,
ac ni wrthodaist hwy.
Hefyd, pan wnaethant lo tawdd a dweud,
‘Dyma dy Dduw a'th ddygodd i fyny o'r Aifft’,
a chablu'n ddirfawr,
yn dy drugaredd fawr ni chefnaist arnynt yn yr anialwch.
Ni chiliodd oddi wrthynt y golofn gwmwl
a'u tywysai ar hyd y ffordd liw dydd,
na'r golofn dân liw nos,
a oleuai'r ffordd a dramwyent.
Rhoddaist dy ysbryd daionus i'w cyfarwyddo;
nid ateliaist dy fanna rhagddynt;
rhoddaist iddynt ddŵr i dorri eu syched.
Am ddeugain mlynedd buost yn eu cynnal yn yr anialwch
heb fod arnynt eisiau dim;
nid oedd eu dillad yn treulio
na'u traed yn chwyddo.
“Rhoddaist iddynt deyrnasoedd a chenhedloedd,
a rhoi cyfran iddynt ymhob congl.
Cawsant feddiant o wlad Sihon brenin Hesbon
a gwlad Og brenin Basan.
Gwnaethost eu plant mor niferus â sêr y nefoedd,
a'u harwain i'r wlad y dywedaist wrth eu hynafiaid
am fynd iddi i'w meddiannu.
Felly fe aeth eu plant a meddiannu'r wlad;
darostyngaist tithau drigolion y wlad,
y Canaaneaid, o'u blaen,
a rhoi yn eu llaw eu brenhinoedd a phobl y wlad,
iddynt wneud fel y mynnent â hwy.
Enillasant ddinasoedd cedyrn a thir ffrwythlon,
a meddiannu tai yn llawn o bethau daionus,
pydewau wedi eu cloddio,
gwinllannoedd a gerddi olewydd a llawer o goed ffrwythau;
bwytasant a chael eu digoni a mynd yn raenus,
a mwynhau dy ddaioni mawr.