Ac yn wir, o'r dydd y penodwyd fi yn llywodraethwr yng ngwlad Jwda, o'r ugeinfed hyd y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i'r Brenin Artaxerxes, sef cyfnod o ddeuddeng mlynedd, ni fwyteais i na'm brodyr ddogn bwyd y llywodraethwr. Bu'r llywodraethwyr blaenorol oedd o'm blaen i yn llawdrwm ar y bobl, ac yn cymryd ganddynt bob dydd fara a gwin gwerth deugain sicl o arian. Yr oedd eu gweision hefyd yn arglwyddiaethu ar y bobl. Ond ni wneuthum i ymddwyn fel hyn am fy mod yn ofni Duw. Atgyweiriais y mur hwn, er nad oeddwn berchen yr un cae, a daeth fy holl weision at ei gilydd yno ar gyfer y gwaith. Yr oedd cant a hanner o'r Iddewon a'r llywodraethwyr, yn ogystal â'r rhai a ddaeth atom oddi wrth y cenhedloedd o'n cwmpas, wrth fy mwrdd, fel bod ych, a chwech o'r defaid gorau, ac adar yn cael eu paratoi ar fy nghyfer bob dydd, a digon o win o bob math bob deg diwrnod; er hynny ni ofynnais am ddogn bwyd y llywodraethwr am ei bod yn galed ar y bobl. Fy Nuw, cofia er daioni i mi y cwbl a wneuthum i'r bobl yma.
Darllen Nehemeia 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Nehemeia 5:14-19
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos