Yna dywedais wrthynt, “Yr ydych yn gweld y trybini yr ydym ynddo; y mae Jerwsalem yn adfeilion a'i phyrth wedi eu llosgi â thân; dewch, adeiladwn fur Jerwsalem rhag inni fod yn waradwydd mwyach.” Dywedais wrthynt fel yr oedd fy Nuw wedi fy helpu, a hefyd yr hyn a ddywedodd y brenin wrthyf. Yna dywedasant, “Awn ati i adeiladu.” A bu iddynt ymroi i'r gwaith yn ewyllysgar. Pan glywodd Sanbalat yr Horoniad, a'r gwas Tobeia yr Ammoniad, a Gesem yr Arabiad, gwatwarasant ni a'n dirmygu a gofyn, “Beth yw hyn yr ydych yn ei wneud? A ydych yn gwrthryfela yn erbyn y brenin?” Atebais hwy a dweud, “Bydd Duw y nefoedd yn rhoi llwyddiant i ni, ac yr ydym ninnau, ei weision ef, yn mynd ati i adeiladu. Ond nid oes gennych chwi ran na hawl na braint yn Jerwsalem.”
Darllen Nehemeia 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Nehemeia 2:17-20
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos