Daethant i Gapernaum, ac wedi cyrraedd y tŷ gofynnodd iddynt, “Beth oeddech chwi'n ei drafod ar y ffordd?” Ond tewi a wnaethant, oherwydd ar y ffordd buont yn dadlau â'i gilydd pwy oedd y mwyaf. Eisteddodd i lawr a galwodd y Deuddeg, a dweud wrthynt, “Pwy bynnag sydd am fod yn flaenaf, rhaid iddo fod yn olaf o bawb ac yn was i bawb.” A chymerodd blentyn, a'i osod yn eu canol hwy; cymerodd ef i'w freichiau, a dywedodd wrthynt, “Pwy bynnag sy'n derbyn un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae'n fy nerbyn i, a phwy bynnag sy'n fy nerbyn i, nid myfi y mae'n ei dderbyn, ond yr hwn a'm hanfonodd i.”
Darllen Marc 9
Gwranda ar Marc 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 9:33-37
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos