Ymhen chwe diwrnod dyma Iesu'n cymryd Pedr ac Iago ac Ioan ac yn mynd â hwy i fynydd uchel o'r neilltu ar eu pennau eu hunain. A gweddnewidiwyd ef yn eu gŵydd hwy, ac aeth ei ddillad i ddisgleirio'n glaerwyn, y modd na allai unrhyw bannwr ar y ddaear eu gwynnu. Ymddangosodd Elias iddynt ynghyd â Moses; ymddiddan yr oeddent â Iesu. A dywedodd Pedr wrth Iesu, “Rabbi, y mae'n dda ein bod ni yma; gwnawn dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias.” Oherwydd ni wyddai beth i'w ddweud; yr oeddent wedi dychryn cymaint. A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt; a dyma lais o'r cwmwl, “Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; gwrandewch arno.” Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwyach ond Iesu yn unig gyda hwy. Wrth iddynt ddod i lawr o'r mynydd rhoddodd orchymyn iddynt beidio â dweud wrth neb am y pethau a welsant, nes y byddai Mab y Dyn wedi atgyfodi oddi wrth y meirw.
Darllen Marc 9
Gwranda ar Marc 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 9:2-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos