Daethant i Bethsaida. A dyma hwy'n dod â dyn dall ato, ac yn erfyn arno i gyffwrdd ag ef. Gafaelodd yn llaw'r dyn dall a mynd ag ef allan o'r pentref, ac wedi poeri ar ei lygaid rhoes ei ddwylo arno a gofynnodd iddo, “A elli di weld rhywbeth?” Edrychodd i fyny, ac meddai, “Yr wyf yn gweld pobl, maent yn edrych fel coed yn cerdded oddi amgylch.” Yna rhoes ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef. Craffodd yntau, ac adferwyd ef; yr oedd yn gweld popeth yn eglur o bell. Anfonodd ef adref, gan ddweud, “Paid â mynd i mewn i'r pentref.” Aeth Iesu a'i ddisgyblion allan i bentrefi Cesarea Philipi, ac ar y ffordd holodd ei ddisgyblion: “Pwy,” meddai wrthynt, “y mae pobl yn dweud ydwyf fi?” Dywedasant hwythau wrtho, “Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn, un o'r proffwydi.” Gofynnodd ef iddynt, “A chwithau, pwy meddwch chwi ydwyf fi?” Atebodd Pedr ef, “Ti yw'r Meseia.” Rhybuddiodd hwy i beidio â dweud wrth neb amdano.
Darllen Marc 8
Gwranda ar Marc 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 8:22-30
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos