Daethant i Bethsaida. A dyma hwy'n dod â dyn dall ato, ac yn erfyn arno i gyffwrdd ag ef. Gafaelodd yn llaw'r dyn dall a mynd ag ef allan o'r pentref, ac wedi poeri ar ei lygaid rhoes ei ddwylo arno a gofynnodd iddo, “A elli di weld rhywbeth?” Edrychodd i fyny, ac meddai, “Yr wyf yn gweld pobl, maent yn edrych fel coed yn cerdded oddi amgylch.” Yna rhoes ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef. Craffodd yntau, ac adferwyd ef; yr oedd yn gweld popeth yn eglur o bell.
Darllen Marc 8
Gwranda ar Marc 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 8:22-25
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos