Yn y dyddiau hynny, a'r dyrfa unwaith eto'n fawr a heb ddim i'w fwyta, galwodd ei ddisgyblion ato, ac meddai wrthynt, “Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, oherwydd y maent wedi bod gyda mi dridiau erbyn hyn, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta. Ac os anfonaf hwy adref ar eu cythlwng, llewygant ar y ffordd; y mae rhai ohonynt wedi dod o bell.” Atebodd ei ddisgyblion ef, “Sut y gall neb gael digon o fara i fwydo'r rhain mewn lle anial fel hyn?” Gofynnodd iddynt, “Pa sawl torth sydd gennych?” “Saith,” meddent hwythau. Gorchmynnodd i'r dyrfa eistedd ar y ddaear. Yna cymerodd y saith torth, ac wedi diolch fe'u torrodd a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron; ac fe'u gosodasant gerbron y dyrfa. Ac yr oedd ganddynt ychydig o bysgod bychain; ac wedi eu bendithio, dywedodd am osod y rhain hefyd ger eu bron. Bwytasant a chael digon, a chodasant y tameidiau oedd yn weddill, lond saith cawell. Yr oedd tua phedair mil ohonynt. Gollyngodd hwy ymaith. Ac yna aeth i mewn i'r cwch gyda'i ddisgyblion, a daeth i ardal Dalmanwtha. Daeth y Phariseaid allan a dechrau dadlau ag ef. Yr oeddent yn ceisio ganddo arwydd o'r nef, i roi prawf arno. Ochneidiodd yn ddwys ynddo'i hun. “Pam,” meddai, “y mae'r genhedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni roddir arwydd i'r genhedlaeth hon.” A gadawodd hwy a mynd i'r cwch drachefn a hwylio ymaith i'r ochr draw.
Darllen Marc 8
Gwranda ar Marc 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 8:1-13
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos