Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 8

8
Porthi'r Pedair Mil
Mth. 15:32–39
1Yn y dyddiau hynny, a'r dyrfa unwaith eto'n fawr a heb ddim i'w fwyta, galwodd ei ddisgyblion ato, ac meddai wrthynt, 2“Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, oherwydd y maent wedi bod gyda mi dridiau erbyn hyn, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta. 3Ac os anfonaf hwy adref ar eu cythlwng, llewygant ar y ffordd; y mae rhai ohonynt wedi dod o bell.” 4Atebodd ei ddisgyblion ef, “Sut y gall neb gael digon o fara i fwydo'r rhain mewn lle anial fel hyn?” 5Gofynnodd iddynt, “Pa sawl torth sydd gennych?” “Saith,” meddent hwythau. 6Gorchmynnodd i'r dyrfa eistedd ar y ddaear. Yna cymerodd y saith torth, ac wedi diolch fe'u torrodd a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron; ac fe'u gosodasant gerbron y dyrfa. 7Ac yr oedd ganddynt ychydig o bysgod bychain; ac wedi eu bendithio, dywedodd am osod y rhain hefyd ger eu bron. 8Bwytasant a chael digon, a chodasant y tameidiau oedd yn weddill, lond saith cawell. 9Yr oedd tua phedair mil ohonynt. Gollyngodd hwy ymaith. 10Ac yna aeth i mewn i'r cwch gyda'i ddisgyblion, a daeth i ardal Dalmanwtha.
Ceisio Arwydd
Mth. 16:1–4
11Daeth y Phariseaid allan a dechrau dadlau ag ef. Yr oeddent yn ceisio ganddo arwydd o'r nef, i roi prawf arno. 12Ochneidiodd yn ddwys ynddo'i hun. “Pam,” meddai, “y mae'r genhedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni roddir arwydd i'r genhedlaeth hon.” 13A gadawodd hwy a mynd i'r cwch drachefn a hwylio ymaith i'r ochr draw.
Surdoes y Phariseaid a Herod
Mth. 16:5–12
14Yr oeddent wedi anghofio dod â bara, ac nid oedd ganddynt ond un dorth gyda hwy yn y cwch. 15A dechreuodd eu siarsio, gan ddweud, “Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a surdoes Herod.” 16Ac yr oeddent yn trafod ymhlith ei gilydd y ffaith nad oedd ganddynt fara.#8:16 Yn ôl darlleniad arall, ei gilydd gan ddweud, “Nid oes gennym fara.” 17Deallodd yntau hyn, ac meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn trafod nad oes gennych fara? A ydych eto heb weld na deall? A yw eich meddwl wedi troi'n ystyfnig? 18A llygaid gennych, onid ydych yn gweld, ac a chlustiau gennych, onid ydych yn clywed? Onid ydych yn cofio? 19Pan dorrais y pum torth i'r pum mil, pa sawl basgedaid lawn o dameidiau a godasoch?” Meddent wrtho, “Deuddeg.” 20“Pan dorrais y saith i'r pedair mil, llond pa sawl cawell o dameidiau a godasoch?” “Saith,” meddent. 21Ac meddai ef wrthynt, “Onid ydych eto'n deall?”
Iacháu Dyn Dall yn Bethsaida
22Daethant i Bethsaida. A dyma hwy'n dod â dyn dall ato, ac yn erfyn arno i gyffwrdd ag ef. 23Gafaelodd yn llaw'r dyn dall a mynd ag ef allan o'r pentref, ac wedi poeri ar ei lygaid rhoes ei ddwylo arno a gofynnodd iddo, “A elli di weld rhywbeth?” 24Edrychodd i fyny,#8:24 Neu, Dechreuodd gael ei olwg yn ôl. ac meddai, “Yr wyf yn gweld pobl, maent yn edrych fel coed yn cerdded oddi amgylch.” 25Yna rhoes ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef. Craffodd yntau, ac adferwyd ef; yr oedd yn gweld popeth yn eglur o bell. 26Anfonodd ef adref, gan ddweud, “Paid â mynd i mewn i'r pentref.”#8:26 Yn ôl darlleniad arall, “Paid â dweud wrth neb yn y pentref.”
Datganiad Pedr ynglŷn â Iesu
Mth. 16:13–20; Lc. 9:18–21
27Aeth Iesu a'i ddisgyblion allan i bentrefi Cesarea Philipi, ac ar y ffordd holodd ei ddisgyblion: “Pwy,” meddai wrthynt, “y mae pobl yn dweud ydwyf fi?” 28Dywedasant hwythau wrtho, “Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn, un o'r proffwydi.” 29Gofynnodd ef iddynt, “A chwithau, pwy meddwch chwi ydwyf fi?” Atebodd Pedr ef, “Ti yw'r Meseia.” 30Rhybuddiodd hwy i beidio â dweud wrth neb amdano.
Iesu'n Rhagfynegi ei Farwolaeth a'i Atgyfodiad
Mth. 16:21–28; Lc. 9:22–27
31Yna dechreuodd eu dysgu bod yn rhaid i Fab y Dyn ddioddef llawer, a chael ei wrthod gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, ac ymhen tridiau atgyfodi. 32Yr oedd yn llefaru'r gair hwn yn gwbl agored. A chymerodd Pedr ef ato a dechrau ei geryddu. 33Troes yntau, ac wedi edrych ar ei ddisgyblion ceryddodd Pedr. “Dos ymaith o'm golwg, Satan,” meddai, “oherwydd nid ar bethau Duw y mae dy fryd ond ar bethau dynol.” 34Galwodd ato'r dyrfa ynghyd â'i ddisgyblion a dywedodd wrthynt, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i. 35Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i a'r Efengyl, fe'i ceidw. 36Pa elw a gaiff rhywun o ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? 37Oherwydd beth a all rhywun ei roi'n gyfnewid am ei fywyd? 38Pwy bynnag fydd â chywilydd ohonof fi ac o'm geiriau yn y genhedlaeth annuwiol a phechadurus hon, bydd ar Fab y Dyn hefyd gywilydd ohonynt hwy, pan ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda'r angylion sanctaidd.”

Dewis Presennol:

Marc 8: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda