Meddai hefyd wrthynt, “Rhai da ydych chwi am wrthod gorchymyn Duw er mwyn cadarnhau eich traddodiad eich hunain. Oherwydd dywedodd Moses, ‘Anrhydedda dy dad a'th fam’, a, ‘Bydded farw'n gelain y sawl a felltithia ei dad neu ei fam.’ Ond yr ydych chwi'n dweud, ‘Os dywed rhywun wrth ei dad neu ei fam, “Corban (hynny yw, Offrwm i Dduw) yw beth bynnag y gallasit ei dderbyn yn gymorth gennyf fi”,’ ni adewch iddo mwyach wneud dim i'w dad neu i'w fam. Yr ydych yn dirymu gair Duw trwy'r traddodiad a drosglwyddir gennych. Ac yr ydych yn gwneud llawer o bethau cyffelyb i hynny.”
Darllen Marc 7
Gwranda ar Marc 7
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 7:9-13
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos